|
Y Bandstand (Aberystwyth) |
|
Oriel Cerddi Newydd
|
|
Awdur: Dafydd John Pritchard
|
|
18 : 08 : 2008 |
Yn y golau hwn fe ddaw gwylanod
o rai o'r toeau i fomio'r tywod,
corws, wrth boeni ryw Sais a'i ddiod,
yn torri'u henwau'n y twrw hynod.
Ond a oes ryw synau'n dod o fan'cw
sy'n galw, galw o Gantre'r Gwaelod? |