Hafan 06 : 07 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Gorffennaf 2008
Ll Ma Me I G Sa S
301 2 3 4 5 6
7 8 9 10 11 12 13
14 15 16 17 18 19 20
21 22 23 24 25 26 27
28 29 30 31 1 2 3
Manylion y mis hwn
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (219 cyfraniad)
blobby (155 cyfraniad)
yprifgopyn (153 cyfraniad)
sioncyn (144 cyfraniad)
Newydd i'r Annedd Heddiw
02 : 07 : 2008
Gosodwyd englyn newydd o waith Aron Pritchard ar furiau'r oriel heddiw
09 : 06 : 2008
Yn boeth o ymryson Gŵyl Maldwyn, gosodwyd cywydd cywaith o waith tîm Karen Owen ar furiau'r oriel.
19 : 05 : 2008
Ar furiau'r oriel heddiw, gosodwyd cywydd newydd sbon o waith Rhys Gerallt Owen
07 : 04 : 2008
I ddathlu camp yr Adar Glas, gosodwyd cywydd amserol o waith Aron Pritchard ar furiau'r oriel
20 : 03 : 2008
Cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2008 yw testun pôl piniwn diweddaraf yr Annedd
Anthony Crockett
Oriel Cerddi Newydd
Awdur: Aron Pritchard   
02 : 07 : 2008
Diweddar Esgob Bangor

Er nad oes seren heno i'w gweled
Uwch Gwalia, er glawio
Dagrau gweld ei eisiau o,
Fe wn ei fod ef yno.

Agor
Oriel Cerddi Newydd
Awdur: Tîm Karen Owen, Gŵyl Maldwyn   
09 : 06 : 2008
('Knock, knock, knocking on heaven's door')

Mae'n oer, a minnau'n aros
yn y niwl ym mherfedd nos
a'r adar corff 'di gorffen
dod â'r byd a'i dwrw i ben;
hen leuad, ac mae'n glawio,
dw i'n glaf, ac mae'r dydd dan glo.

Mae hi'n oer, ac mae 'na wae
hŷn na cherrig yn chwarae
ar y cof rhyngof a'r hyn
a gredais, bob gair; wedyn,
heno, ym mhorth yr enaid,
curo'r wyf, curo o raid.

Mae'n oer, fe ddaw hi'n oerach;
ni ddaw neb drwy'r bore bach
at y drws tu draw i'r wawr,
yn union fel gwynt Ionawr.
Ac er i minnau guro,
ni ddaw neb i'w ateb o.

Ewro 2008
Oriel Cerddi Newydd
Awdur: Rhys Gerallt Owen   
08 : 06 : 2008

Yn llon heb Saeson fydd swyn
Aeddfed gefnogwyr addfwyn,
Canu mawl heb Sais diawl dig,
Uffernol Saeson ffyrnig.
Gwell fydd y gamp heb Lampard
A Rooney goch a’r hen gard,
Wylo’n grug, aflawen gri,
Y torrwyd calon Terry.
Yn nwyfus fydd Genefa,
Heb chwant Alys blant yn bla,
A Fiena yn feinwedd
Llawen haf yn llawn o hedd,
A heb bêl da gweld pylu
Yr anghymwys Loegrwys lu.
Y gêm honno gymhennaf
Pêl yw’r byd ar hyd yr haf,
Un gêm – Fehefin rwy’n gaeth
I’r Ewro Bencampwriaeth.

Ymryson y Sesiwn Fawr 2008
Cyhoeddiadau a Digwyddiadau
Awdur: Bethan Gwanas   
25 : 05 : 2008
Cofiwch am Ymryson y Sesiwn efo’r Meuryn, Twm Morys.

2.00 prynhawn Sul, Gorffennaf 20

Yn Nhŷ Siamas eleni NID yn y Clwb Rygbi.

Dyma’r tasgau:

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'bendigedig'.

Pennill telyn: 'Marian'.

Cân (heb fod dros 16 llinell) 'DNA'.

Cywydd byr (hyd at 6 llinell): 'Cadair Idris'.

Tasg fechan ar y pryd (Mi geith y beirdd ychydig funudau i wneud hon tra bydd y Meuryn yn malu).

Englyn yn cynnwys y llinell: 'Dirgelwch ydi'r galon'.

Limrig: 'Mi ddeffrais un bore yn sgwarnog...'

Croeso i bawb!

10 sylw diweddaraf o'r seiat
1: Storm o Storiau, Ty Newydd, 29 Mehefin gan Olwen Dafydd
2: Taith Gerdded gyda'r Prifardd Twm Morys, 29 Meh gan Olwen Dafydd
3: Mererid Hopwood a Gwyneth Glyn, Cricieth, 25 Meh. gan Olwen Dafydd
4: par:Tîm Karen Owen gan ci gwallgo
5: par:Tîm Karen Owen gan Osian Rhys
6: Tîm Karen Owen gan dyl bach
7: par:Pôl piniwn gan dyl bach
8: Pôl piniwn gan Anwadal
9: par:Llyfr y Flwyddyn gan Anwadal
10: par:Llyfr y Flwyddyn gan Anwadal

sylwadau 4 - 24 awr diwethaf
Pôl piniwn y mis
Llyfr y Flwyddyn 2008
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 14 o westeion ar-lein
Anheddwyr
254 aelod
0 heddiw
0 yr wythnos hon
Diweddaraf: dheijl
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo