"ar heolydd o rywle"
Croeso
Croeso i wefan Llion Jones, prifardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000 ac awdur y gyfrol 'Pethe Achlysurol'.
 
Cyfrol Newydd
Newydd ei gyhoeddi y mae casgliad cyntaf Llion Jones o'i gerddi.

Pethe AchlysurolMae'r gyfrol, sy'n dwyn y teitl 'Pethe Achlysurol', yn cynnwys y dilyniant o gerddi caeth a gipiodd iddo gadair prifwyl Llanelli 2000 yn ogystal â dilyniant o gerddi rhydd a osodwyd yn uchel yng nghystadleuaeth y goron ym mhrifwyl Y Faenol 2005. Mae lle ynddi hefyd i'r awdl a ddyfarnwyd yn ail yng ngystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn 1995.

Fel hyn y mae'r broliant yn cyflwyno'r gyfrol, ond peidiwch â chredu popeth yr ydych yn ei ddarllen mewn broliant:

"Pethau achlysurol yw cerddi Llion Jones. Ond fel y gwelir yn y casgliad cyntaf hwn ohonynt, y mae’r bardd yn gyson iawn yn y modd y mae’n eu defnyddio i archwilio natur y byd o’i gwmpas. Byd y pethe achlysurol neu’r diwylliant byrhoedlog, lle mae newyddion yn sebon a sebon yn newyddion, lle mae’r defnyddiwr yn cael ei ddefnyddio, lle mae delwedd a delweddau yn teyrnasu. Dyma gyfrol sy’n cynnig golwg dreiddgar ar fywyd ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain gan un sy’n ymwybodol iawn o’r bydoedd gwahanol y magwyd ef rhyngddynt."

Cyhoeddir y gyfrol gan Barddas, ac y mae ar werth o'r wefan hon ynghyd â siopau llyfrau Cymraeg am £6.