Dydd Athroniaeth Byd Llawen!

Newydd ddysgu ar wefan BBC ei bod hi’n World Philosophy Day heddiw felly rhaid imi ddymuno Dydd Athroniaeth Byd llawen i holl ddarllenwyr Blog Dogfael.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)

Hynodion sustem etholiadol y Taleithiau Unedig

Cyfansoddiad y Taleithiau UnedigDyma fi’n troi yn ôl at fy hoff bwnc ar hyn o bryd, yr etholiad arlywyddol diweddar yn y Taleithiau Unedig. Mae’r sustem etholiadol yn un ddiddorol. Y nodwedd bwysicaf i’w cofio yw nad yw’r etholiad yn un uniongyrchol. Yn hytrach yr hyn a wneir yw bod pob talaith yn cynnal etholiad er mwyn penderfynu i ba ymgeisydd y bydd cynrychiolydd y daith yn pleidleisio mewn coleg etholiadol. Yn ôl y Cyfansoddiad mae hawl gan bob talaith ddewis y dull o benderfynu hyn drostyn eu hunain. Mae’r rhelyw ohonynt yn dewis rhoi pleidlais pob un o’r cynrychiolwyr i’r ymgeisydd sy’n ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau yn y dalaith. Golyga hyn bod ymgeisydd sy’n ennill un bleidlais yn fwy na gweddill yr ymgeiswyr mewn talaith yn derbyn yr holl bleidleisiau yn y coleg etholiadol. Does dim angen dweud wrth neb fod hyn yn medru arwain i sefyllfa lle mae’r enillydd yn y coleg etholiadol, a’r arlywydd nesaf, wedi derbyn llai o bleidleisiau poblogaidd na’r un sy’n colli.

Mae pob talaith yn ethol aelodau o’r coleg etholiadol sy’n cyfateb i gyfanswm eu seneddwyr yn y Senedd a’u cynrychiolwyr yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr. Felly mae talaith fel Georgia sydd â 2 seneddydd (fel sydd gan bob talaith) a 13 cynrychiolydd (yn ôl poblogaeth) yn ethol 15 aelod o’r coleg etholiadol. Mae’r ymgeisydd sy’n ennill mwyafrif o’r pleidleisiau yn Georgia yn derbyn pleidlais pob un o’r aelodau hynny. Yn ddiddorol iawn yn achos Georgia, a rhyw 23 o daleithiau eraill does dim rheidrwydd cyfreithiol i’r aelodau hynny ddilyn cyfarwyddyd y bleidlais ac yn y gorffennol mae pethau rhyfedd wedi digwydd.

Senedd-dy Talaith NebraskaOnd yr hyn sy’n tynnu fy sylw i yw’r ddwy dalaith nad ydyn nhw’n dilyn y rheol fod un ymgeisydd yn derbyn holl bleidleisiau talaith yn y coleg etholiadol, sef Nebraska a Maine. Nid oes unrhyw elfen o gyfranoliaeth yn unrhyw un o’r taleithiau eraill, ond yn Nebrasaka a Maine mae aelodau’r coleg etholiadol yn cael eu hethol yn wahanol. Yn y ddwy dalaith mae dau aelod y coleg (yn cynrychioli elfen y Senedd) yn cael eu hethol ar bleidlais y dalaith ar y sail fod yr enillydd yn cymryd y ddwy sedd. Mae gweddill yr aelodau yn cael ei hethol ar sail etholaethau Tŷ’r Cynrychiolwyr. Ond er bod Maine wedi mabwysiadu’r sustem hon ers 1972 a Nebraska yn 1992 mae holl aelodau’r coleg etholiadau o’r ddwy dalaith wedi mynd i’r un ymgeisydd bob tro. Ond eleni am y tro cyntaf mae’n edrych yn debyg y bydd un o aelodau y coleg etholiadol o Nebraska yn pleidleisio i Barack Obama, tra bydd y pedwar arall yn pleidleisio i John McCain. Dwi’n gwybod nad yw’n bwysig yn y darlun mawr, ond i’r rhai sy’n ymddiddori yn y pethau hyn mae’n reit gyffrous. Arwydd arall fod pethau wedi newid.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5 allan o 5)

Gwaith cynghorydd yn parhau

Neuaddd y Dref, Aberystwyth

Bues i mewn cyfarfod o un o is-bwyllgorau’r Cyngor Tref heno. Roedd yn ofynnol imi fod yno i ddweud y gwir gan taw fi oedd yn cadeirio. Cyfarfod o’r is-bwyllgor Pwrpasau Cyffredinol oedd hwn. Doedd dim rhyw lawer i’w drafod na llawer i’w benderfynu, ond fe lwyddon ni i lenwi awr.

Yr hyn y buom yn ei drafod fwyaf oedd beth oedd y Cyngor Tref yn mynd i’w wneud wedi i swyddfeydd newydd Cyngor Sir Ceredigion gael eu gorffen. Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor Sir swyddfeydd yn y dref drwyddi draw. Ond y bwriad yw gwerthu’r rhan fwyaf ohonynt wedi i’r rhan fwyaf o’r staff ail-leoli i Barc-y-llyn. Nid yw’r Cyngor Sir wedi penderfynu beth i’w wneud â Neuadd y Dref eto – mae sôn y bydd y gwasanaeth llyfrgell neu’r archifdy yn mynd yno – ac yno y mae swyddfa’r Cyngor Tref. I’r rhai sy’n hoff o hanes dylid dweud taw’r Cyngor Tref oedd berchen Neuadd y Dref pan oedd Aberystwyth yn fwrdeistref. Mae pethau wedi newid bellach, ond mae rhywun yn dal i hiraethu am gynnal ein cyfarfodydd yno. Erbyn hyn mae cyfarfodydd y cyngor a’i is-bwyllgorau yn digwydd yn Swyddfa’r Sir. Sôn am gymhleth!

‘Ta beth, mae’r holl newidiadau yma yn nhrefniadau’r Cyngor Sir yn Aberystwyth yn mynd i gael effaith ar y Cyngor Tref ac ar bawb arall mae’n debyg. Pan fydd y swyddfeydd wedi symud i Barc-y-llyn ni fydd gan y Cyngor Sir swyddfa gyffredinol ar gyfer ymholiadau yng nghanol y dref. Yn ôl a ddeallaf i bydd yn rhaid i ddinasyddion sydd am wneud busnes gyda’r cyngor ddod o hyd i’w ffordd i lawr i Barc-y-llyn. Efallai y bydd hynny’n hawdd i’r rhai sy’n gyrru, ond fe fydd yn golygu taith arbennig o’r dref i lot o drigolion. Nawr mae’n bosib popo miwn i dalu treth y cyngor pan yn y dref. Cyn bo hir (diwedd 2009) bydd yn rhaid gwneud taith arbennig er mwyn gwneud hynny.

Trafodaeth gychwynnol a gafwyd heno ar beth ddylai’r Cyngor Tref ei wneud pan fydd y trefniadau newydd yn dod i fod. Ymhlith y dewisiadau byddai ceisio parhau yn Neuadd y Dref, chwilio am lefydd eraill ar rent, neu hyd yn oed prynu cartref newydd i ni ein hunain. Mae ‘na rywbeth i’w ddweud dros bob un o’r posibiliadau. Dwi’n siŵr y bydd llawer o drafod cyn ein bod yn dod i yn agos i unrhyw beth sy’n debyg i benderfyniad. Ond dyna yw beth yw bod yn gynghorydd. A does dim yn bod ar drafod os ydyn ni’n llwyddo i benderfynu’n ddoeth ar ddiwedd y dydd.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4 allan o 5)

Dal i feddwl am etholiad y Taleithiau Unedig

Michele BachmannDwi’n siŵr fod pawb wedi dyfalu erbyn hyn fy mod yn obsesd gyda buddugoliaeth Barack Obama, ond dwi’n methu’n deg â rhoi’r gorau i ryfeddu at yr hyn sydd wedi digwydd. Mae’n siŵr y daw’r siom a’r dadrithio ond tan yr inawgareiddiad 20 Ionawr 2009 mae dyn yn rhydd i freuddwydio. Ac wrth gwrs dwi’n sylweddoli fy mod yn gwneud rhywbeth peryglus iawn, sef cynnig barn ar wleidyddiaeth mewn gwlad arall. Mae’n beth digon dadleugar i fentro barn ar beth sy’n digwydd yn dy wlad dy hun, ond mae sôn am beth sy’n digwydd mewn gwledydd eraill yn medru ymddangos yn rhyfygus dros ben. (Wrth gwrs mae rhyfyg yn rhan annatod o’r profiad o flogio, a dwi’n gobeithio hefyd y bydd darllenwyr Blog Dogfael yn y Taleithiau Unedig yn fodlon goddef hyn am ychydig.) Mae ‘na erthygl arall ddiddorol yn New York Times am beth wnaeth pobol ddweud am Obama cyn yr etholiad a beth maen nhw wedi’i ddweud wedyn, Stinging about Obama? Never mind. Rydyn ni i gyd wedi’i wneud e, ond weithiau mae mwy na wythnos neu ddwy rhwng y ‘newid’ meddwl. Dyma hanes y Gynrychiolyddes Michele Bachmann o’r erthygl.

Just a few weeks ago, at the height of the campaign, Representative Michele Bachmann of Minnesota told Chris Matthews of MSNBC that, when it came to Mr. Obama, “I’m very concerned that he may have anti-American views.”

But there she was on Wednesday, after narrowly escaping defeat because of those comments, saying she was “extremely grateful that we have an African-American who has won this year.” Ms. Bachmann, a Republican, called Mr. Obama’s victory, which included her state, “a tremendous signal we sent.”

Wrth gwrs dylwn i ddim bod yn rhy llawdrwm ar y fath hyn o beth oherwydd dyna yw un o gyfrinachau bod yn wleidydd llwyddiannus sef bod yn barod i newid meddwl pan mae galw i wneud hynny. Dwi’n gwybod fy mod i wedi newid fy meddwl a fy syniadau am lawer o bethau dros y blynyddoedd ond ni mor gyflym â Michele Bachmann.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)