Cyfrwng
  Hafan arrow Gwersi arrow Gweithio englyn gyda Wil Ifan arrow E-bost gan Wil Ifan 7 21 : 11 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Tachwedd 2008
Ll Ma Me I G Sa S
27282930311 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
Manylion y mis hwn
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
E-bost gan Wil Ifan 7 PDF Argraffu E-bost
Awdur: Y Prif Gopyn   
12 : 06 : 2005
Wel, Gwern,

Dyma ni'n mynd ymlaen o gam i gam. Sôn yr oeddwn i am y Gynghanedd Sain, gan ddweud, ar ôl gofalu am yr odl, y cei di drin hanner ola'r llinell yn union fel pe bai'n Groes neu Draws. Ond dyma fi rwan yn tynnu'r gair "union" yn ôl. Mae'n siwr dy fod yn cofio i mi awgrymu yn un o'm hepistolau cyntaf bod rhyw ddau hanner-perthynas i bobol Ty-croes. Wel, y mae un ohonyn nhw yn gwasanaethu ar dir y Sain yma. Dyma i chdi linell a'i hanner olaf heb fod yn berffaith "Groes" nac yn berffaith "Draws", ond gellir ei defnyddio i wneud Cynghanedd Sain.

Fy ngeneth oleubleth lon.

Nid yw leubleth lon yr un fath â Marged Morgan na Bob Bach na Tim Tomos. Yn hon y mae'r rhan gyntaf yn ddiacen a'r ail yn acennog. Rheol sylfaenol y math arbennig yma o gynghanedd sain, yw bod y gytsain neu'r cytseiniaid cyntaf o flaen y llafariaid acennog yn y gair cyntaf diacen i'w hailadrodd o flaen llafariad y gair acennog sy'n dilyn:

Mor aeddfed yw Marged mwy
Un ennyd hyfryd o haf


Rwan ta Gwern, gwylia rhag y perygl o feddwl y gellir defnyddio'r dull yma mewn llinell gyfan o gynghanedd groes neu gynghanedd draws. Hyd yma, dydw i ddim am roi'r hawl i chdi ei defnyddio ond i orffen llinell o gynghanedd sain.

Cofia, os wyt ti wedi llunio llinell gyfan o Groes neu Draws, cyn rhoi hawl iddi fyw, croeshola hi'n bendant fel hyn: "Pwy ydy dy berchennog - Marged Morgan, Bob Bach neu Tim Tomos?" Aros am ei hateb diamwys, ac wedi bod yn siwr am ei thylwyth, profa hi yn erbyn y meini prawf.

Rwy'n ymddiheuro os oes naws ychydig yn fygythiol i'r e-bost hwn.

Cofion,

Wil Ifan

 

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 18 o westeion ar-lein a 2 o aelodau ar-lein
  • anwadal
  • Osian Rhys
Anheddwyr
275 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo