Hafan arrow Gwersi arrow Gweithio englyn gyda Wil Ifan arrow E-bost gan Wil Ifan 8 04 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
E-bost gan Wil Ifan 8 PDF Argraffu E-bost
Awdur: Y Prif Gopyn   
12 : 06 : 2005
Annwyl Gwern

Wrth gyflwyno'r gynghanedd sain fe soniais ei bod hi'n dibynnu ar odl oddi fewn i'r llinell ynghyd â rhywbeth arall i orffen y llinell, rhywbeth a oedd yn perthyn yn bur agos i'r Groes a'r Draws.

Heddiw, rydw i am dy gyflwyno i gynghanedd sydd yn dibynnu ar odl yn unig. Cynghanedd syml ydy hon, ond cynghanedd gwir effeithiol, a'i henw ydy'r gynghanedd lusg. Mae'n bosib dysgu ei rheolau mewn pum munud, a chymryd oes, efallai, i glywed gwir gyfrinach ei miwsig! Dyma'r rheolau:

(a) Y llinell i orffen gyda gair sydd â'i sillaf olaf yn ddiacen a'r olaf ond un yn acennog

(b) Gofalu bod y sillaf acennog yma yn odli ag unrhyw sillaf a aeth o'r blaen yn y llinell

h.y. cynghanedd lusg sy'n llusgo

Dyma i chdi linellau adnabyddus sy'n datgelu cyfrinach ei miwsig:

Mae arch yn Ystrad Marchell
Gweld gwlad o oleuadau

I bwrpas y Lusg, os wyt ti am gymryd dy grefft o ddifri', gofala fod yr holl gytseiniaid sy'n cloi'r sillaf acennog yn rhan o'r odl. Anghywir fyddai:

Sychu'i fest yn y festri

Yn yr enghraifft hon y mae angen estr yn y gair cyntaf i ateb estr y gair olaf. Byddai hon yn gywir:

Sychu llestr yn y festri

Wedi dweud hynny, yn achos gair cyfansawdd fel "glandeg", mae cyfateb yr an yn unig yn cael ei ystyried yn dderbyniol bellach, e.e.

Mae Ann yn eneth landeg

ond mae sicrhau cyfatebiaeth lawn yn creu llinell sy'n llusgo'n well, e.e.

Mor grand yw'r eneth landeg

Noda hefyd y cei di ddefnyddio sillaf ddiacen i'w Llusgo yr un mor gyfreithlon â sillaf acennog. Yn amlach na pheidio, mae llinell o'r fath yn fwy swynol i'r glust:

Coed mihangel yn felyn
Pan feddwn dalent plentyn

Gan obeithio fod y cyfan yn weddol glir.

Bydd wych,

Wil Ifan

 

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 28 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo