Hafan arrow Gwersi arrow Gweithio englyn gyda Wil Ifan arrow E-bost gan Wil Ifan 9 04 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
E-bost gan Wil Ifan 9 PDF Argraffu E-bost
Awdur: Y Prif Gopyn   
12 : 06 : 2005
Annwyl Gwern,

Dyma ni o'r diwedd yn barod i geisio gweithio englyn. Mae'n well gen i sôn am weithio englyn yn hytrach na gwneud englyn, gan mai dyna a ddywedai bois y Cilie bob amser. Mae arogl efail y gof arno!

Pennill o bedair llinell ydy'r englyn, a'r pedair yn odli â'i gilydd.

Pa gynghanedd sydd i'w defnyddio yn y llinellau?

(1) Cei ddefnyddio'r Lusg naill ai yn y gyntaf neu'r drydedd
(2) Cei ddefnyddio'r Groes, y Draws, a'r Sain yn y gyntaf neu'r drydedd neu'r bedwaredd

Fe sylwi imi osgoi sôn am yr ail linell, a hynny am ei bod yn galw am sylw ar ei phen ei hun. Llinell ryfedd iawn ydy hon. Mae'n cychwyn fel rhyw fath o atodiad i'r llinell gyntaf, ac wrth osod yr atodiad ar bapur tynnir strac fechan i'w wahanu oddi wrth wir ddiwedd y llinell gyntaf. (Y gwant yw'r term technegol am y strac fechan yma). Gall yr atodiad bychan fod yn un sillaf neu yn ddwy neu yn dair. Mae'r rhan sy'n weddill o'r ail linell yn cael ei ysgrifennu o dan y llinell gyntaf a rhaid i ran gyntaf yr ail ddechrau yma gynganeddu â'r atodiad y soniwyd amdano. Y gair cyrch ydy'r term cyffredin ar yr atodiad.

Nid oes gynghanedd o fath yn y byd yng nghynffon yr ail linell, ond sylwa ei bod hi'n odli â'r tair llinell arall ac yn gorffen gyda sillaf ddiacen. I gynganeddu'r gair cyrch defnyddia'r Groes neu'r Draws neu'r Sain. 0 ddefnyddio'r Sain, rhaid i chdi anghofio'r hyn a ddywedais nad oes angen cynghanedd yng nghynffon yr ail linell, oherwydd bydd odl gyntaf dy Sain yn cau'r tamaid bach ar ôl y strac, yr ail odl (fel rheol) yn hanner cyntaf yr ail linell, a'r gynghanedd yn gorffen gyda diwedd yr ail linell. Rhywbeth yn debyg i hyn:
- Aneirin
Yw brenin y bryniau.

Os defnyddi di'r Groes neu'r Draws, a dyna'r ddwy fwyaf cyfffredin yn y cyrch, y mae i chdi ryddid newydd (ond dim ond yma, cofia!) Yn ychwanegol at Tim Tomos, fe gei di nawr ddweud Tomos Tim hefyd. Fel hyn:
- o Fynwy
I Fôn y mae cyffro

O ran yr odlau, dyma'r rheolau:

(1) Y llinell gyntaf i orffen naill ai'n acennog neu'n ddiacen
(2) Yr ail yn ddiacen
(3) Os bydd y drydedd yn ddiacen rhaid i'r bedwaredd fod yn acennog, a vice versa

Beth am hyd y llinellau ?

(1) Y gyntaf, o gyfri'r cyrch, yn ddeg sillaf
(2) Yr ail, heb gyfri'r cyrch, yn chwe sillaf
(3) Y drydedd a'r bedwaredd yn saith sillaf yr un

Dyna hen ddigon am y tro, a thithau, gobeithio, ar dy ffordd i weithio un math o englyn, sef y math a elwir yn englyn unodl union. Ond cofia, dwyt ti ddim eto wedi dysgu digon i feirniadu englynion pobol eraill!

Llawer o ddiolch am dy gwmni dros yr wythnosau diwethaf

Cofion

Wil Ifan

0.N. Wedi meistroli cynnwys yr e-byst hyn, fe gei weld ymhen amser fod yr awdurdodau heddiw yn rhoi mwy o ryddid i chdi nag yr dyw i'n ei roi i un yn dechrau, yn arbennig felly ym myd y Lusg. Ond fyddi di ddim yn anghywir o ddilyn y gwersi yma.

 

< Blaenorol
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 48 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo