|
Awdur: Iwan Llwyd
|
|
29 : 08 : 2005 |
Lle mae dwr a lle mae ‘deryn,
lle mae eto un llymeityn,
yno’n amal y dof innau
i ddal y deigryn rhwng dau olau.
Murmur gwenyn, trydar gwenoliaid,
alawon tawel corff ac enaid;
yn y coed mae’r cof yn cadw
gwyfyn brau yr atgof hwnnw.
Taflu carreg i bwll llonydd,
gweld y dwr yn troi o’r newydd;
rhyw le felly oedd Afallon
a golau dydd yn y gwaelodion. |