Hafan arrow Cerddi arrow Cerddi newydd 2005 arrow Gyrfa Bardd 21 : 11 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Tachwedd 2008
Ll Ma Me I G Sa S
27282930311 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
Manylion y mis hwn
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Gyrfa Bardd PDF Argraffu E-bost
Awdur: Grahame Davies   
14 : 10 : 2005
Dechreuais yn y Cymoedd ym mil naw wyth deg saith
yn galarnadu'r pylloedd a chyni'r fro ddi-waith,
gan ennill peth amlygrwydd, a dirnad bod y ddawn
i leisio anghyfiawnder yn un ddefnyddiol iawn.

Ac yn y man cael gwobrau a gwahoddiadau lu
i sôn am ein hargyfwng, ein dioddefaint du,
yng Nghymru ar y dechrau, ond buan iawn y daeth
y gwahoddiadau tramor i farwnadu'r iaith.

Esboniais i ym Moscow y stad o fod dan draed
yn Cape Town mi ddinoethais y gormes yn ein gwaed.
Crwydrais y pum cyfandir a'm dicter i fel fflam -
i Iddew ac i Arab dangosais beth yw cam.

Melltithiais ein caethiwed - mewn parti yn Paris;
ceryddais ein gormeswyr - wrth deithio'r Caribî.
Eglurais erchyllterau ein holl gystuddiau blin
wrth bobl Efrog Newydd - dros ambell ddracht o win.

Yr un yr ofnadwyaeth ym mhob rhyw fan a lle,
yn Rhufain neu yn Rio, yn Lhasa neu L.A.
Waeth beth yw drygau'r henwlad, waeth pa mor chwerw'i chri,
bu'r cyflwr gorthrymedig yn llesol iawn - i mi.

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 52 o westeion ar-lein
Anheddwyr
275 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo