Hafan arrow Adolygiadau arrow Cyfrolau Barddoniaeth arrow Y Patshyn Glas: Wyn Owens 21 : 11 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Tachwedd 2008
Ll Ma Me I G Sa S
27282930311 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
Manylion y mis hwn
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Y Patshyn Glas: Wyn Owens PDF Argraffu E-bost
Awdur: Idris Reynolds   
19 : 10 : 2005

Dywedir fod ansawdd y golau yn gwneud Sir Benfro yn baradwys i arlunwyr. Estroniaid yw'r mwyafrif ohonynt, wedi eu denu yno gan burdeb y lliwiau sy'n cael eu creu wrth i fryniau'r Preseli ymestyn allan i'r môr mawr. Gan hardded y tirlun, gall lluniau'r bobl ddwad yn aml blesio'r llygad arwynebol. Ond dim ond cynfas y brodor all ddarlunio tir y cof; dim ond gwladwr y bryniau all liwio ysbryd Twm Carnabwth, ac mae angen deigryn yn y paent i ddal tranc y Gymraeg ym Mynachlog-ddu. Rhaid adnabod Waldo cyn sylweddoli mawredd Talmynydd, a'r tangnefeddus o galon yn unig a all fanteisio'n llawn ar y môr goleuni. Un o'r artistiaid breintiedig hynny yw Wyn Owens, ac mae ganddo ddau gyfrwng, ei gynfas a'i gerddi. A'r un yw'r weledigaeth yn y ddwy gelfyddyd.

Yr un yw'r artist a'r bardd wrth iddo beintio a barddoni bro'r Preseli mewn heulwen a chwmwl, mewn llawenydd a thristwch, mewn digalondid ac mewn gobaith, ac mae'r hwyliau mor gyfnewidiol â thywydd y Gorllewin. Oriel o gerddi sydd ganddo yn Y Patshyn Glas a phob darlun unigol yn ychwanegu at batrwm amryliw ei Sir Benfro annwyl ef. Fel pob gwir artist, gall amrywio ei arddull hefyd. Weithiau, mae yng nghanol y traddodiad, yn cofio'n dyner am Robina Ellis-Gruffydd, am Nest ac am ei dad, a hynny yn null yr Hen Feistri. Bryd arall, mynn agor y drws ac ymestyn y ffiniau wrth iddo wau ei deimladau dyfnaf i mewn i dirlun ei febyd yn hudolus o haniaethol. Ond ta beth fo'r cyfrwng, fel artist ac fel bardd, peintio a chanu o'r galon a wna Wyn Owens. Dyna gyfrinach Y Patshyn Glas.

Idris Reynolds

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 59 o westeion ar-lein
Anheddwyr
275 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo