Cyfrol o gerddi gan Llion Jones
  Hafan arrow Adolygiadau arrow Cyfrolau Barddoniaeth arrow Digon o Fwydod: Mihangel Morgan 04 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Digon o Fwydod: Mihangel Morgan PDF Argraffu E-bost
Awdur: Eurig Salisbury   
19 : 10 : 2005

Ydi, mae'r gyfrol hon fel agor can o fwydod. Mae hi'n llawn cerddi anghyfforddus, doniol, gwirion yr olwg, anorffwys, sy'n denu'r pysgod/darllenwyr bob yn dipyn, fel pob abwyd da. Ond nid yw'r mwydyn ond rhywbeth i gelu'r bachyn, ac mae hwnnw'n sicr i'w deimlo yn rhai o gerddi gorau, mwyaf brathog y gyfrol. Mae 'Santes Diana', 'Pwdl', 'Pwdl Pwp' a 'Henospîc' yn codi gwên slei am eu bod yn gerddi na fyddai'r beirdd canol-y-ffordd poblogaidd yn medru eu cyhoeddi heb i rywrai gynnal cwêst yn eu herbyn. Clywir yn aml yr un neges neu bwynt yn awr ac yn y man gan feirdd eraill, ond fe'i cyfiawnheir bryd hynny gan gynildeb ymadrodd neu agwedd ysgafn tafod-yn-y-boch. Cyfrol yw hon sy'n 'cymryd y pìs', ac nid ymddiheurir am hynny.

Mae 'Cerdd a Meddyliau Wrth Geisio Gwrando ar Fardd o Sais yn Darllen ei Farddoniaeth Mewn Gweithdy' hefyd yn taro deuddeg drwy dynnu coes yr academyddion hynny sy’n trin barddoniaeth fel esgyrn sychion, a'r esgyrn sychion hynny o feirdd sy'n trin eu barddoniaeth fel gwaith academyddol. Weithiau enwir rhyw Königsberg, Fernando Pessoa neu Jenny Savalette de Lange, llefydd a phobol na wyr pob pysgodyn eu harwyddocâd, ond nid oes raid wrth hynny i fwynhau'r dweud. Cyrhaeddir weithiau waelod y ddalen a diwedd y gerdd heb ddeall yn llawn (odid ddim) o'r hyn a ddywedwyd, ond bydd rhyw ymadrodd lliwgar neu adlais o un o gerddi eraill y gyfrol eisoes wedi aros yn y cof.

Nid bod yn nawddoglyd yw hyn – yn aml ni chyrhaeddir gwaelod y ddalen hyd yn oed mewn cyfrolau eraill gan feirdd y 'traddodiad', ac efallai mai diogi'r pysgodyn arbennig hwn sydd i'w gyfrif am hynny. Ta waeth, cynhelir diddordeb y prae hyd y diwedd, weithiau gan yr awydd i flasu'r tro-yn-y-gynffon (sy'n effeithiol iawn yn nifer o'r cerddi), ond yn amlach na pheidio drwy gyfrwng odl broest, techneg brin ar y cyfan yn ein barddoniaeth gyfoes, ond un sy'n eithriadol o effeithiol mewn cerdd fach dwt fel 'Marwnad i Deng Siao Ping'.

Dro arall rhoddir y coegni i'r naill ochr a theflir rhwyd ehangach i'r dwr. Nid oes ar y pysgotwr hwn angen abwyd bob tro, ac yn aml denir dalfa fwy o ganlyniad. Mae 'Iaith Mam', er enghraifft, yn berl fach o gerdd sy'n elwa ar ei chynildeb, ac 'Un Odl' yn besychiad o gerdd sy'n canu cloch yng nghlustiau pawb, dybiwn i. Mae 'Mari Lwyd' hithau wedi'i llwytho â delweddaeth a chyfeiriadaeth nad ydynt, serch hynny, yn hanfodol i'w mwynhau a'i gwerthfawrogi. Bydd beirniaid llên eraill, rhai a chanddynt fwy o amser i gysgu'r bore, yn sicr o ddod o hyd i lond gwlad o gyfeiriadaeth werthfawr a chyfoethog parthed gweithiau eraill Mihangel Morgan yn y gyfrol hon (yn arbennig yn y defnydd o gathod a chwn), ond digon am y tro yw eich annog i lyncu hynny a fedrwch o'r abwyd blasus cyn i'r pysgotwr eich ffrio chithau i ginio.

Eurig Salisbury

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 37 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo