Cyfrol o gerddi gan Llion Jones
  Hafan arrow Adolygiadau arrow Cyfrolau Barddoniaeth arrow Perffaith Nam: Menna Elfyn 04 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Perffaith Nam: Menna Elfyn PDF Argraffu E-bost
Awdur: Elinor Wyn Reynolds   
19 : 10 : 2005

Does yna ddim byd yn y byd yma sy'n berffaith, a dyna lle mae gogoniant ein byd ni; yn y pethau amherffaith mae ein barddoniaeth. Mae Menna Elfyn yn fardd sy'n sylwi ar bethau bychain bywyd er mwyn creu darlun o'r pethau mwy. Dyma'r gyfrol gyntaf yn y Gymraeg yn unig i Menna ei chyhoeddi ers dros ddeng mlynedd; doeddwn i ddim yn cofio fod amser wedi hedfan gymaint.

Mae'r gyfrol, Perffaith Nam, yn un sy'n gasgliad o'r manwl a'r mwy. Mae ei cherddi i'r teulu yn rhai tyner a hudolus - o gerdd am fodrwy i fotwm bol ei merch, lle mae 'Botwm siâp y byd yw, / Nam perffaith, beunyddiol' i gerdd, 'Digymar' i'w gwr, yn sôn am y ffordd y mae'r ddau mor ddi-hid o ddyddiad eu priodas, yn anghofio bob blwyddyn, ac eto mae'r ddau yn ymwybodol o ba mor werthfawr yw eu perthynas, yn 'eneidwe syfrdan'. Ac yn y manylion teuluol yma y mae mawredd Perffaith Nam i mi, y pethau cudd hynny sydd mor unigryw ac eto mor gyffredin i bawb; dyma'r pethau sy'n gwneud bywyd yn werth ei fyw.

Chwarae ar eiriau ac ystyron, y gerdd 'Bronnau ffug' a 'Cysgu ar ei thraed', sy'n plesio nghlust i'n fawr. Mae cerddi fel 'Cysgu gyda Mussolini' yn cofnodi un digwyddiad, yn asio'r doniol a'r difrifol mewn ffordd hynod, mewn dull mae Menna Elfyn yn ei wneud mor ardderchog. Mae cerddi Menna yn crynu'n drydanol o fywyd ac mae'r nam yma'n berffaith o ran hynny.

Er i mi fwynhau'r gerdd hir am Simone Weil, y ffeminydd, 'Y Forwyn Goch', a theimlo gwefr o gryfder cyhyrog y merched yn y dilyniant o gerddi, 'Melltith y Mamau', i mi, Menna Elfyn ar ei gorau yw'r un sy'n dangos y manylion, yr un edrychiad llygaid yna, y fflach, y cyffwrdd o dros sawl cyfandir. Ac fel pwytho clytwaith at ei gilydd, mae'r grefft yn y pwythau mân, ac mae Menna Elfyn yn wniadwraig ddi-ail.

Elinor Wyn Reynolds

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 82 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo