Cyfrol o gerddi gan Llion Jones
  Hafan arrow Adolygiadau arrow Cyfrolau Barddoniaeth arrow Englynion Dan Bwysau: Emyr Lewis (gol.) 04 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Englynion Dan Bwysau: Emyr Lewis (gol.) PDF Argraffu E-bost
Awdur: Huw Ceiriog   
23 : 10 : 2005

Un o atyniadau mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn yw Ymryson y Beirdd. Dyma'r digwyddiad sy'n achosi'r ciwiau mwyaf ar y Maes, ac sy'n sicr o lenwi'r Babell Lên. Mae'n destun rhyfeddod fod y beirdd yn llwyddo mor aml i greu perlau mewn amser byr.

Wrth gwrs, nid yw hyn yn bosib heb lawer o chwysu a chrafu pen, heb sôn am gymorth parod yr Odliadur. Casgliad o englynion a grewyd dan yr amgylchiadau yma yw Englynion Dan Bwysau, sef englynion gorau'r Ymrysonau o Eisteddfod Caernarfon yn 1979 hyd Eisteddfod Casnewydd 2004.

Er y sglein ar yr englynion, mae’r pwysau’n dangos fel y dywed Tudur Dylan Jones:

Daeth slac ar odl ac acen – a fy nhîm
Uwch fy nhasg ddiorffen,
Yn holl hwyl y Babell Lên
Un tro daeth trai i'r awen.

Gwaeth fyth, mae'r un bardd yn cofio'r awen yn diflannu'n llwyr:

Un tro daeth trai ar awen – y gwyr hoff
A'r holl greu yn gorffen,
Daeth pwrpas Barddas i ben,
A diwedd ar Lloyd Owen.

Sylwer hefyd fel mae pynciau yn dyddio. Yn 1980 cafwyd englynion i'r diffyg Cymraeg ar y teledu ac i Shah Persia; i Richard Burton yn 1984, ac yn wir i dîm criced Lloegr a gollodd y Lludw yn 1989.

Mae llawer o esiamplau o waith y beirdd yma i'w gweld yn y gyfrol – T. Arfon Williams, Alan Llwyd, Twm Morys, Dafydd Wyn Jones, Gwilym Fychan, a Myrddin ap Dafydd.

Wrth gwrs, mae rhai englynion yn taro deuddeg yn well na'i gilydd o blith yr ysgafn a'r difrif. Dyma rai a dynnodd fy sylw i:

Yn isel ar bob noson – y mae Wil
Yn troi i mewn i'r Leion:
Nos Sul mae’n mynd i Seilo'n
Drwsiadus barchus i'r bôn.
Gwilym Herber Williams

Mae’n rhy hwyr, a mi'n rhy hen – yrwan
I ymroi i'r awen,
Beth yw llwydd, a beth yw llên
A'r rhaw ar bwys yr ywen?
Gwyn Jones

Heb foeth, heb dwb i fathio – heb y lw
A heb lafn i shafio,
I'n gwyl af fel dyn y glo:
Rwyf innau’n carafanio.
Peredur Lynch

Heibio â'r rhai sy’n gwybod – am y byd,
Am ei boen a'i drallod;
Ni wyr Ifan yr Hafod
Un dim, ond bod fory'n dod.
Gwilym Fychan

Gwisg Wen
Os swil yw afon Gwili – a gwenwisg
Tarth y gwanwyn drosti,
Dod mae'r haul i'w dadmer hi'n
Dyner oddi amdani.
Tîm Morgannwg

Prynwch y gyfrol fach hon ar bob cyfri er mwyn cael orig ddifyr.

Huw Ceiriog

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 29 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo