|
Awdur: Iwan Rhys
|
|
11 : 01 : 2006 |
Daw adeg bob diwedydd y rhuddir
fy ngruddiau oherwydd
gwelaf, ym machlud hafddydd,
liw Dy waed ar orwel dydd.
Ond mae gorwel bore melyn yn dweud
y gwnei Di, o'th ddilyn,
roddi'n ôl fy ngruddiau'n wyn
heb wrid y bore wedyn.
|