Cyfrol o gerddi gan Llion Jones
  Hafan arrow Adolygiadau arrow Cyfrolau Barddoniaeth arrow Cyn i'r Dydd Hwyrhau: D. Islwyn Edwards 04 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Cyn i'r Dydd Hwyrhau: D. Islwyn Edwards PDF Argraffu E-bost
Awdur: Hywel Griffiths   
22 : 01 : 2006

Dyma ail gyfrol D. Islwyn Edwards o farddoniaeth, ac mae hi’n gyfrol fyfyrgar, bersonol a chyfoethog. Ymhlith y themâu y mae’r bardd yn ymdrin â nhw, crefydd, treigl amser a marwoldeb, ac ymateb bardd i ddinistr, terfysg a rhyfela’r ugeinfed ganrif, ac yn wir yr unfed ganrif ar hugain, sydd yn cael y mwyaf o sylw. Ymdrinnir â’r themâu yma mewn cerddi vers libre, ac mewn arddull dawel a chynnil. Yn sicr, nid yw cerddi gorau’r gyfrol yn ildio'u holl ystyron na’u crefft ar y darlleniad cyntaf. Cerddi i ddychwelyd atynt yw’r goreuon, cerddi lle mae cynildeb tyn y dweud yn sicrhau fod haenau amrywiol yr ystyr yn codi dro ar ôl tro.

Un enghraifft o’r cerddi hyn lle mae’r ddelwedd a’r pwnc yn cyfuno i greu cerdd effeithiol yw’r gerdd ‘Bydded’ lle mae’r bardd yn myfyrio ar y Greadigaeth ac esblygiad. Disgrifir y ddynolryw fel:

Hen hiliogaeth Cain,
yn rhodianna,
o’r môr i enau’r ogof.

ac yn

. . . gwlwm clai
yn nwylo’r Crochenydd.

Ymddengys y ddelwedd bwerus hon eto yn y gerdd ‘Y Crochenydd’. Dywed:

o glai’r anneall mawr
yr ymffurfiodd
yn sylwedd byw.

Rhai o gerddi gorau’r gyfrol yw ‘Berlin’, cerdd am fyfyrdodau’r bardd am ryfeloedd yr ugeinfed ganrif wrth ymweld â’r ddinas, a ‘Darn o Goncrit’. Yn Berlin, fe węl y bardd:

y frech afiach ar y muriau
lle bu shrapnelau’n ysgyrnygu
ar eu hysglyfaeth,

ac fe ddychwela at anallu'r presennol i ddianc rhag, neu i anghofio am, erchyllterau’r gorffennol oherwydd yr olion sydd o’n cwmpas yn y byd yn ‘Darn o Goncrit’:

Ni all sgalpel a nodwydd
y blynyddoedd
wella afiechydon hanes yn llwyr.

Dyma ddwy gerdd sydd ychydig yn wahanol i weddill y gyfrol oherwydd fe ganiateir i’r llinellau ymestyn yn hwy na’r arfer. Mae’r ddwy gerdd yma ar eu hennill oherwydd hyn yn fy marn i, maent yn llifo ac yn canu, ac mae’r delweddau’n cryfhau rywsut. Mae ‘Caffi Conti’, lle mae’r bardd yn darlunio safiad yn erbyn oes sydd yn rhuthro heibio yn rhy gyflym, hefyd yn elwa o hyn, ac er y gallwn anghytuno â’r syniadaeth gryn dipyn (fe sonnir am y DVD ‘dieflig’ a’r ‘. . . hafau sepia/yn gwrthod machlud mwy/o ffenestri’r hwyr’, er enghraifft), ni ellir gwadu crefft y dweud a delweddu ei brofiadau personol.

Yng nghanol ‘Caffi Conti’ ceir brawddeg sydd yn adlewyrchu syniadaeth ac arddull llawer o’r cerddi:

Mor hawdd yw cyfaddawdu,
coleddu’r anochel,
cydymffurfio,
cyfoesi a moderneiddio
ac ôl foderneiddio yfory.

Yn y cerddi sydd yn darlunio profiadau personol y bardd y mae cryfder y gyfrol, ac yma hefyd y clywir llais sydd yn wirioneddol unigryw ei arddull a’i ddelweddu. Fel y mae’r dyfyniad uchod yn awgrymu, efallai mai llefarydd ar ran un genhedlaeth arbennig, hŷn yw’r bardd, ac efallai y bydd rhai o’r cerddi sydd yn llefaru hyn gryfaf yn peri penbleth i genhedlaeth ifancach ond yn sicr, gall pob cenhedlaeth werthfawrogi dawn a chrefft y dweud.

Hywel Griffiths

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 30 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo