Cyfrol o gerddi gan Llion Jones
  Hafan arrow Adolygiadau arrow Cyfrolau Barddoniaeth arrow Rhigymau Wil Sam 04 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Rhigymau Wil Sam PDF Argraffu E-bost
Awdur: Tegwyn Jones   
22 : 01 : 2006

Dyma’r ychwanegiad diweddaraf, a’r bumed yn y gyfres o lyfrau bach difyr a ddaw’n achlysurol o Wasg Carreg Gwalch, ac a elwir yn onest ddigon yn ‘Farddoniaeth Boced-Din’. A’r fath ychwanegiad annisgwyl! ‘Dramodydd ac awdur storïau byrion’ yw’r disgrifiad sobr a syber o Wil Sam yn y Cydymaith tra gwerthfawr, ond drwy gydol yr amser y bu’n cynhyrchu’r cyfryw ddeunydd, a heb yn wybod i’r rhan fwyaf ohonom mae’n siŵr, yr oedd yn rhigymwr cudd yn ogystal.

Er mai ‘barddoniaeth’ yw’r gair yn enw’r gyfres hon, sylwer mai ‘rhigymau’ y geilw’r awdur ei waith yma – enw nid anaddas ar lawer o ddeunydd Cymraeg a gyhoeddir heddiw o dan yr enw ‘barddoniaeth’. Nid bod yn ddilornus yw hyn – wedi’r cyfan, oni alwodd Parry-Williams rai o’i gerddi mawr yn ‘rigymau’ – ond ple i fod yn fwy darbodus wrth ddefnyddio ‘barddoniaeth’. Pluen yn het y rhigwm yw’r gyfrol fechan hon, ac un a all fod yn hwb i hyder y sawl sy’n ofnus o gael ei alw’n fardd.

I’r sawl a ddotiodd dros y blynyddoedd ar gynnyrch yr awdur, cyfle i fynd ymlaen â’r dotio sydd yma, oherwydd fel y dywedir ar y clawr ôl, dyma ‘fintej Wil Sam’. Y dafodiaith, y cymeriadau, yr ymhyfrydu mewn cwmnïaeth eneidiau hoff cytûn, a’r hiwmor unigryw:

Meri wen wiwlan sydd dan y llechan,
Treuliodd hon oes heb na rhegi na rhechan.
(‘Beddargraff i Mary Whitehouse’)

Ewyrth imi, brawd i ‘Nhad,
Oedd Eban Ynys Enlli,
Mi fasa yma rŵan hyn
Onibai i’r hen gradur foddi.
(‘Pytiau’)

A phwy ond Wil Sam fyddai’n ychwanegu, ar ôl teitl un rhigwm, y cyfarwyddyd, ‘Darn adrodd i blant o dan chwech neu o dan deimlad’?

Eto, nid ysgafnder a gwamalrwydd clyfar yn unig sydd yma. Ceir tinc yr Hen Benillion o bryd i'w gilydd – yn y rhigwm ‘Cam Ceiliog’ er enghraifft:

Cofia ddiogyn nad yw Chwilog
Fawr iawn pellach na cham ceiliog,
Hel dy bac a phaid â chwyno
Hwb cam a naid na fyddi yno.

A thinc telynegol dilys, megis yn y gerdd ‘Pawb a’i Bethau’ (sy’n ymddangos ddwywaith gyda llaw, ar dudalen 37 a 117). Ac weithiau fe ymdeimlir ag ychydig o ddiffyg amynedd cyfiawn wyneb yn wyneb â’r sefyllfa sy’n ofid ac yn bryder i lawer ohonom erbyn hyn:

Tarwch i’r dafarn,
Trowch i’r Llan,
Mae’r diawlad yno,
Ma’ nhw ym mhob man.
(‘Y Mewnlifiad’)

Cymysgedd cyfareddol o waith awdur arbennig iawn, a’r cyfan am bum punt!

Tegwyn Jones

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 12 o westeion ar-lein a 1 aelod ar-lein
  • gwaddyn oddeith
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo