Hysbysebwch
  Hafan arrow Adolygiadau arrow Cyfrolau Barddoniaeth arrow Apocalups Yfory: Gwyn Thomas 04 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Apocalups Yfory: Gwyn Thomas PDF Argraffu E-bost
Awdur: Iwan Llwyd   
22 : 01 : 2006

Efallai mai'r bardd a ddylanwadodd fwyaf ar genhedlaeth y chwarter canrif diwethaf o feirdd yw Gwyn Thomas. Mae ei ôl yn drwm ar waith beirdd mor amrywiol â Menna Elfyn, Gerwyn Wiliams a hyd yn oed Ifor ap Glyn. Yn annibynnol ar gystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol a chynnydd a phoblogrwydd y canu caeth a Thalwrn y Beirdd, torrodd Gwyn Thomas ei gwys ei hun, yn bwrw golwg ffraeth a chrafog ar y byd cyfoes a'r newidiadau enfawr a ddaeth i ran y gymdeithas a'r diwylliant Cymreig yn ystod y deugain mlynedd diwethaf.

Yn y gerdd a roddodd deitl i’r gyfrol hon, ‘Apocalups Yfory’, mae’n hel atgofion am gymdeithas Blaenau Ffestiniog ei blentyndod, ac yn gresynu bod y gymdeithas honno, a’r diwylliant hwnnw, wedi mwy neu lai ddiflannu o’n byd:

Lle oedd o – does dim dwy waith –
Sydd yn swnio i amryw, yn awr, mi wn,
Yn rhyfeddol iawn o ystrydebol;
Ond, er hynny yr oedd o.

Fel T. H. Parry-Williams o’i flaen, mae Gwyn Thomas yn feistr ar droi iaith lafar, sgyrsiol, yn farddoniaeth, a gweld rhyfeddod a gwirionedd arhosol yn y digwyddiad neu’r dywediad mwyaf cyffredin a di-nod. Mae o hefyd yn hynod o barod i wneud hwyl am ben ei grefft a’i ddawn o ’i hun. Yng ngherdd gynta’r gyfrol mae’n gofyn cwestiwn sy’n poeni pob bardd o bryd i’w gilydd – ‘Be Ydi Barddoni?’ – ac ar ôl dod i’r casgliad mai ‘bodoli mewn tywyllwch’ ydi’r cyfan, mae’n cysuro ei hun:

Cwestiwn da,
Wel, y mae o, welwch chi,
Yn rhywbeth i’w wneud
On’d ydi?

Yn fwy na neb arall, Gwyn Thomas a arloesodd y cyfuniad o farddoniaeth a theledu a radio, ac er gwaetha'i anobaith ynglŷn â chynulleidfa effro mewn cerddi fel yr uchod, a cherdd grafog arall dan y teitl ‘Brychan, yn Bedwar Mis’, cyfathrebu yw nod ei gerddi, rhannu synhwyrau a theimladau amrywiol bywyd, o’r lleddf i’r llon. Ac yn aml iawn, dan ryw gerdd sy’n ymddangos yn hynod o ffwrdd-â-hi, mae yna wirionedd ingol yn llechu. Mae dyfnder ei wybodaeth am ddiwylliant a llenyddiaeth Cymru yn amlwg mewn cerddi mor ymddangosiadol ysgafn â ‘Tarw Elis Wynne’ neu ‘Evan Roberts y Diwygiwr’, ac mae dylanwad Dafydd ap Gwilym ar ei waith hefyd yn amlwg mewn cerddi fel ‘Ble Mae y Gôg?’:

Hebddi hi, nid yw’r haf,
Nid yw taslo aur yr haul
Sy’n direidus-sbecian
Trwy doreth glas y dail
Ond coreograffi amddifad o ddawnsio.

Er gwaethaf ei hunan-ddychan diymhongar, mae cerddi Gwyn Thomas, a’r gyfrol ddiweddaraf hon, yn profi pam bod yr iaith Gymraeg a’i barddoniaeth, er gwaethaf pawb a phopeth, yn dal yn beryglus o berthnasol ar ddechrau’r 21ain ganrif.

Iwan Llwyd

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 51 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo