Hafan arrow Adolygiadau arrow Beirniadaeth Lenyddol arrow Llęn yr Uchelwyr: Dafydd Johnston 21 : 11 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Tachwedd 2008
Ll Ma Me I G Sa S
27282930311 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
Manylion y mis hwn
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Llęn yr Uchelwyr: Dafydd Johnston PDF Argraffu E-bost
Awdur: Barry Lewis   
01 : 03 : 2006

Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525

Digwyddiad gwirioneddol gyffrous ym myd llenyddol Cymru yw ymddangosiad yr astudiaeth drylwyr a swmpus hon. Ni fu ymdriniaeth mor fanwl â llenyddiaeth y cyfnod rhwng Llywelyn y Llyw Olaf a'r Deddfau Uno ers cyhoeddi ail gyfrol y Guide to Welsh Literature yn 1979, ac yn sicr fe fydd y gyfrol newydd hon yn ei disodli fel y llawlyfr safonol ar y maes.

Prif gamp Dafydd Johnston yn ddiau yw cyflwyno maint y deunydd sydd yno, mewn golygiadau print ac, yn fwy defnyddiol fyth, mewn llawysgrifau anolygedig. Y mae barddoniaeth Gymraeg y bymthegfed ganrif yn arbennig mor helaeth, a chymaint ohoni heb ei astudio'n fanwl gan unrhyw un, fel mai o'r braidd y gall hyd yn oed ysgolheigion profiadol ei hamgyffred yn ei chrynswth. Gan hynny, fe fydd croeso arbennig i benodau 9 a 14, ‘Beirdd y Bymthegfed Ganrif’ a ‘Cyfnod y Tuduriaid’, sy'n cynnwys arolwg manwl o feirdd y cyfnod yn ôl rhanbarthau'r wlad.

Crynhoir gwybodaeth werthfawr iawn am bwnc digon dadleuol, sef cyfundrefn y beirdd, ym mhennod 2, ac y mae pennod 4 ar ‘Y Cywydd’ yn nodedig am drafod cywyddau'r cyfnod cyfan ac am ganfod newidiadau yn arddull y farddoniaeth. Dyna osod sylfeini ar gyfer dealltwriaeth fanylach o hynt a helynt y cywydd na'r rhaniad syml arferol rhwng gwaith y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed. Caiff Dafydd ap Gwilym bennawd iddo'i hun, a cheir pennawd hefyd ar ryddiaith y cyfnod, pwnc a esgeulusir yn gyffredin. Nodwedd arall ar y llyfr yw'r sylw manwl a roir i wahanol genres, yn enwedig y canu crefyddol, y canu serch, dychan a'r canu proffwydol. Y mae'r olaf yn sicr yn erfyn am gyflwyniad hwylus a dealladwy, ac nid yw pennod 12, ‘Proffwydoliaeth a Phropaganda’, yn siomi.

Gellir canmol diwyg y llyfr hefyd. O'r diwedd, y mae Gwasg Prifysgol Cymru wedi deall bod nodiadau ar ddiwedd llyfr neu bennawd yn ddim namyn ysgogiad i Repetitive Strain Injury, a braf yw gweld troednodiadau hwylus a chryno yn cyfeirio'r darllenydd at ffynonellau'r wybodaeth a deunydd darllen pellach. Y mae digon o wybodaeth newydd yn y troednodiadau i gadw ysgolheigion Cymraeg yn brysur am sbel go hir, fel y gallaf dystio fy hun.

Bydd y llyfr hwn o ddiddordeb mawr i ysgolheigion a myfyrwyr. Oherwydd i'r awdur ysgrifennu mewn arddull rwydd a bywiog, fe fydd hefyd yn plesio carwyr llenyddiaeth Cymru y tu hwnt i'r maes academaidd, a dylai gael croeso brwd gan unrhyw un a fyn gyflwyniad hwylus i'r cyfnod cyfoethocaf yn hanes llenyddiaeth Cymru. Fel sy'n wir, ysywaeth, am lawer o lyfrau ysgolheigaidd, y mae'r pris yn peri gwingo; ond yn yr achos arbennig hwn gallaf ddatgan yn hyderus fod y gyfrol yn werth ei phrynu.

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 73 o westeion ar-lein
Anheddwyr
275 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo