|
Stompiadau Pod: Arwel 'Pod' Roberts |
|
|
|
|
Awdur: Nia Môn
|
|
26 : 01 : 2005 |
|

Stompiadau Pod yw'r ail gyfrol mewn cyfres newydd dan y teitl ‘Barddoniaeth boced-din'. Pwrpas y gyfres yw cael llyfryn maint cyfleus i'w gario ym mhoced ôl eich jîns, rhywbeth hwylus a hwyliog i'ch difyrru mewn pum munud tawel e.e. wrth aros i'ch peint o Guinness setlo!
Nid cyfrol i'r rhai sy'n chwilio am Farddoniaeth Fawr mohoni mewn mwy nag un ffordd. Ynddi ceir penillion, caneuon a limrigau - barddoniaeth ysgafn yw'r cynnwys yn bwrpasol. Ac eto, mae yna chydig mwy gan Pod - neu Arwel Roberts i'w fam - i'w gynnig. O dan y doniolwch mae yma'n aml finiogrwydd i'r dweud neu broc i'r cydwybod.
Trwy ei sbectol mae Pod yn medru gweld digrifwch mewn sefyllfaoedd cyffredin bywyd, pethau bach byw o ddydd i ddydd. Mae ganddo wraig a phedwar o blant ac yn amlwg dydy bywyd byth yn ddistaw. Mae cerddi am dripiau teulu, a cheisio stopio smocio, yn dangos pa mor barod ydy Pod i chwerthin am ei ben ei hun a gadael i ninnau chwerthin efo fo. Does ganddo ddim ofn cyfaddef ei wendidau, a'r rheini'n gwneud pob sefyllfa o ddagrau yn ddagrau chwerthin i'r darllenydd.
Mewn cerddi a chaneuon hirach, mae'n ein tywys ar daith. Mae Pod yn medru'n tynnu ni i mewn yn llwyr; mae ei ddawn ddisgrifio yn creu darlun llawn o berson, lleoliad neu sefyllfa. Mae'n ein tynnu ni i'w ffantasïau a'i ddychymyg hefyd a'n perswadio'n llwyr ei fod o wedi cael ei golbio gan hen ddynes tu allan i giosg, neu fod ganddo gariad o'r blaned Fenws.
Dawn arall sydd ganddo yw rhoi tro yng nghynffon pob cerdd, a dydach chi ddim yn eu gweld nhw'n dod! Mae ganddo hiwmor eitha rhyfedd yn aml, ac mae'n gallu dychmygu'r sefyllfaoedd rhyfeddaf, a myfyrio ar bethau od iawn - fel swydd Siôn Corn a tharddiad yr enw Llanilltyd Fawr/Llantwit Major! Mae ganddo ddychymyg di-ben-draw. A one-liners bendigedig.
Mae'n gyfrol wnaiff godi gwên a hyd yn oed gwneud i chi chwerthin yn uchel - gochelwch wrth ddisgwyl am eich peint! Ond mae 'na un peth sydd ar goll yn y gyfrol - Pod ei hun - ac os cewch chi gyfle cerwch i wrando arno'n perfformio'r cerddi, mae hynny'n gwneud y cerddi'n well fyth. Gyda'i ddawn dweud a'i wyneb diemosiwn, mae'r cerddi'n dod yn fyw, ac mi gaech chi lond bol o chwerthin go iawn!
Nia Môn
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. |