Hafan arrow Dolenni 09 : 01 : 2009 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Manylion y mis hwn
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (158 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Cau Siop Gareth Bwtsiar PDF Argraffu E-bost
Awdur: Karen Owen   
17 : 04 : 2006

Bu Gareth Williams yn cadw siop gig yn Heol Buddug, Pen-y-groes, am 38 mlynedd. Ymddeolodd ar Ebrill 1, 2006

Mae bwtsiar clên eleni’n
ymddeol o’n Heol ni,
Gareth yw, a gwerth ei oes
yn pwyso’n ei siop eisoes;
Gareth y gylleth a’n gwên
(a’r un sy’n ŵr i Anwen),
y ffedog streipiog a’r hwyl
ddynol, y fo’r lladd annwyl;
Gareth sy’n ddarn o frethyn
hen le ar benrhyn ei Ly^n,
Gareth y cig rhagorach,
ein gwario byw, a’r gair bach.

Oerodd pob darn i’w ferwi!
Aeth ein iau a’n wyau ni!
Mins a ham, stêc a gamwn,
hanner cyw, esgyrn i'r cŵn!
Selsig, tyrcwn Dolig ’di’u dwyn!
Cig oen heb branc y gwanwyn!
Ac os hyn, ein lobsgows aeth
yn addurn bwydlysyddiaeth!

O adael y cig eidion
a rhoi’n ôl y glorian hon,
o gau’r drws, rhyw gr’adur oer
yw ein hoes o deils iasoer;
un rhewgell yw’r fro rhagor,
gigydd hoff, o gau y ddôr.
Oherwydd bwtsiar arall,
â llai o gonsyrn na’r llall,
ddaw â’r ‘arch’ nawr i’r farchnad
a rhoi’r arch yn ei gig rhad;
yr un a’n gwaeda, nes rhed
a newynu’n cymuned,
hogi arfau i gerfio
heibio i’w bris at fêr ein bro.

Heb fwtsiar clên eleni,
gwahanol yw’n Heol ni.

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Hoff gerdd o Oriel 2008
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 26 o westeion ar-lein
Anheddwyr
278 aelod
0 heddiw
2 yr wythnos hon
Diweddaraf: ciltwllan
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo