|
Awdur: Grahame Davies
|
|
25 : 04 : 2006 |
Tybed a fyddai darllenwyr yr Annedd yn gallu helpu? Rwy'n ceisio dod o hyd i ddau gopi ychwanegol o un o'm llyfrau fy hun, sef Adennill Tir, a gyhoeddwyd yn 1997. Rwy'n teimlo braidd fel y dyn yn yr hysbyseb Yellow Pages 'na ers talwm! Yr hyn sydd wedi ysgogi'r diddordeb yw'r ffaith fy mod i newydd dderbyn cais gan y ferch - bellach yn ddynes - oedd â'i llun ar glawr y llyfr. Mae hi'n ceisio dod o hyd i ddau gopi o'r llyfr i roi yn rhoddion ar achlysur penblwydd marwolaeth ei thad-cu, oedd yn y llun gyda hi. Gwaetha'r modd, mae'r llyfr allan o brint. Tybed a fyddai rhywun yn fodlon gwerthu copi neu ddau imi fel y gallaf eu rhoi i'r ferch hon? Os gall rywun helpu, byddaf yn ddiolchgar iawn i glywed ganddynt ar grahame.davies@ntlworld.com neu ar 02920 664241. Diolch! |