|
Awdur: Aled Evans
|
|
27 : 04 : 2006 |
|
Yn dilyn ymweliad ag Ynys Gwales a drefnwyd gan TDJ a MH. Diolch iddynt.
Unwaith bu yma hanes
A’i swyn hyd y twyn fel tes.
Fe fu saith â’u hiaith ar hon
Yn rhwydd eu hymadroddion,
Eu braint oedd cael cynnal bro
A’u henwau hwy oedd yno.
Fe ddilynwn sŵn y saith
I Wales awn ni eilwaith
Ar daith hir at dir a’i des
I’n huno ni â’n hanes.
Yno nawr fe awn yn ôl
I adwaen ein dyfodol.
|