|
Awdur: Gwilym Morus
|
|
31 : 05 : 2006 |
Mae Llyn Gregenan yn canu’n gynnil
ac yn gain; yn hynny
ni wyddwn ond llonyddu.
Clywaf, teimlaf yr afiaith sy’n y dwr
- ei si’n dal mor berffaith
hen ganu mwy eigion maith.
Yn dyner, mae rhyw dynnu annelwig -
y meddyliau’n casglu,
mor ddi-stwr ger y dwr du.
Fe’i clywaf yn arafu, a thaena’i
thonnau gan ddynesu,
y golau’n eu datgelu. |