Hafan arrow Adolygiadau arrow Cyfrolau Barddoniaeth arrow Clawdd Cam: Myrddin ap Dafydd 04 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Clawdd Cam: Myrddin ap Dafydd PDF Argraffu E-bost
Awdur: John Gwilym Jones   
27 : 01 : 2005

Clawdd Cam

Bu beirdd ers dros ganrif bellach yn pryderu am ddyfodol y gynghanedd, a gwelwyd ambell ymgais i roi porfeydd lletach iddi, megis yn y vers libre gynganeddol. Pen draw'r arbrofi hwnnw oedd y llinellau hirion a gaed gan ambell fardd lle byddai'r glust wedi hen anghofio cytseiniaid dechrau'r llinell erbyn cyrraedd yr orffwysfa. Cynghanedd mathemateg a'r stydi oedd honno. Erbyn hyn cafodd y gynghanedd ail anadl mewn ffordd mwy naturiol o lawer, lle mae hi'n siarad yn ei dillad bob-dydd mewn cyfuniadau anhygoel o esmwyth, fel 'un wylan yn hollti'r niwloedd' neu 'daw'r haul yn ffrwd o rywle'. Un o feistri'r arddull newydd yw Myrddin ap Dafydd.

Asgwrn cefn Clawdd Cam yw'r cerddi a enillodd iddo gadair Tyddewi, 2002. Mae'r rheini wedi eu hau ar hyd y gyfrol, a phob un yr un mor ffres ag erioed. Da gen i weld yma hefyd gerdd i'r crefftwr a luniodd y gadair honno. Cyfaddefaf fy mod i yn un a amheuodd yn fawr gynllun y gadair pan gyflwynwyd ei llun i Fwrdd yr Orsedd, ac ni allodd fy llygaid gor-geidwadol i gymryd ati pan ddaeth i'r golwg ar lwyfan y Brifwyl. Ond mae'r gerdd, a roes ei theitl i'r gyfrol, yn ddychan deifiol am rai fel fi sy'n rhy hoff o'r 'llwybr troed', ac 'yn ofni i'n dail yn fwy na dim / fentro blaguro yn gam'. Dyma gerdd effeithiol a symbylwyd gan y ddraenen ddu, a'i thyfiant afrywiog anghonfensiynol dros gefn y gadair.

Y mae'r casgliad yn amrywiol a sylweddol, a dilysrwydd byw yn ei ddelweddau. Cawn ganddo gyfeiriadaeth draddodiadol, fel y cyffyrddiadau celfydd at Aberhenfelen a Gwyn ap Nudd a Rhiannon, ond y mae'r dweud yn fyrlymus gyfoes, yn farddoniaeth yr unfed ganrif ar hugain. Mae yma gerdd am ein hagweddau at GM, gan ddwyn i'n cof ladd protestiwr ifanc gan un o'r Carabinieri yng nghynhadledd yr G8 yn Genoa 2001. Ceir cerddi hwyl ynghanol iobs pêl-droed Lloegr, ac un i Cassius Clay. Dau ddilyniant, a cherddi am blant a cherddi perfformiadau tafarn. Ar lawer tudalen ceir perlau, fel y delyneg o gywydd i 'Ynys Dwynwen', sy'n llawn o bosibiliadau dehongliadau dyfnion. Profodd y gyfrol hon eto fod yma fardd sy'n medru gweld a chyfathrebu.

Ychwanegwch at y boddhad hwn i gyd dros bymtheg o luniau trawiadol gan Sarah Young, a dyna ichi lyfr deniadol ei ddiwyg a'i gynnwys.

John Gwilym Jones

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 77 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo