|
Awdur: Karen Owen
|
|
18 : 07 : 2006 |
|
fy nai yn dri mis oed, Ebrill 2006
Gwelaf fachgen, ond heno
nid un ei hun ydi o.
A weli di deulu’i dad
yn ei wg rhwng dau lygad?
Neu ai ei fam yw’r wên fach
yn how-rannu’i chyfrinach?
Dan aeliau neiniau’i hanes,
ei drwyn sy’n deidiau o res,
hen gefnder o oes fleriach
yw’r aer, mae’n gyfnither iach;
yn ei wrid mae chwaer, wedyn,
o’r tu hwnt, mae rhyw frawd hŷn,
a’r geg ddieiriau i gyd
ar wefus ewythr hefyd;
nai heb iaith ei fodryb yw
a’r dweud sy’n barhad ydyw.
Ond a Gethin ’run ffunud
â gwŷr ei ach, yn ei grud,
er rhoi o’i hil iddo’i ran,
heno mae’n ef ei hunan.
|