Cyfrwng
  Hafan arrow Adolygiadau arrow Astudiaethau Diwylliannol arrow Be Bop a Lula'r Delyn Aur: Hefin Wyn 21 : 11 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Tachwedd 2008
Ll Ma Me I G Sa S
27282930311 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
Manylion y mis hwn
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Be Bop a Lula'r Delyn Aur: Hefin Wyn PDF Argraffu E-bost
Awdur: Llion Jones   
27 : 01 : 2005

Be Bop

Cyhoeddwyd yr adolygiad hwn am y tro cyntaf ym mhapur Y Goleuad

Mae'n rhyfedd cydnabod hynny ar dudalennau'r Goleuad o bob man, ond efallai mai yng ngeiriau hen weinidog wesle y ceir yr allwedd i thema ganolog y gyfrol ragorol hon. Mewn rhagair nodweddiadol o graff, mae Meredydd Evans yn dyfynnu eglureb ogleisiol y clywodd E. Tegla Davies yn ei thraethu o'r pulpud unwaith: "Dydi bwyta banana o India'r Gorllewin ddim yn eich gwneud yn Indiad Gorllewinol".

Yn ôl esboniad Meredydd Evans, awgrymu yr oedd Tegla y dylid croesawu dylanwadau allanol "ar yr amod eu bod yn cyfrannu at ein cynhaliaeth". Fel y dengys cronicl cynhwysfawr Hefin Wyn o ddatblygiad y canu poblogaidd Cymraeg o'r pumdegau hyd ddechrau'r wythdegau, dyna'r union her a wynebwyd gan arloeswyr y cyfrwng yng Nghymru'r delyn aur; sef rhoi gwedd Gymraeg ar y Be Bop a Lula a oedd yn ffrydio dros donnau'r Iwerydd a thonnau'r afon Merswy, a hynny ar adeg pan oedd tuedd ddealladwy i warchod y diwylliant cynhenid.

Mae'r croestynnu hwn yn gyfeiliant i'r hanes ar ei hyd fel yr adroddir ef gan Hefin Wyn. Mae i'w deimlo yn y modd y cyhuddwyd Y Blew yn y chwedegau o fod yn ‘anghymreig', mae i'w glywed yng ngeiriau T.J. Davies yn 1981 fod yr "Eisteddfod Genedlaethol yn cyflawni hunanladdiad wrth hybu a noddi yr is-ddiwylliant...", ac yn  sicr mae ei flas ar y disgrifiad o ymdrech Y Trwynau Coch i darfu ar seremoni'r cadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1979 trwy gynnal gig byrfyfyr o flaen pabell myfyrwyr Aberystwyth. (Gyda llaw, fel bachgen ysgol a fu'n dyst i'r brotest ac a ganfu'n sydyn iawn nad oedd eisteddfota yn brofiad mor arteithiol wedi'r cyfan, difyr iawn yw dwyn i gof ymdrechion un o golofnwyr selocaf y Goleuad i dewi cân Y Trwynau, a hynny trwy ddymchwel y seinyddion drudfawr a thynnu weiars byw ohonynt. Dyma'r union grŵp wrth gwrs oedd wedi bod mor herfeiddiol â mynnu yn un o'u caneuon eu bod eisiau "mynd i'r capel mewn levis"!)

Er gwaethaf y tyndra diwylliannol hwn, y gwir amdani, fel y dywedodd Ned Thomas, yw nad oes yna "...ddim purdeb mewn ffurfiau cerddorol na llenyddol, a'r cwestiwn pwysig i'w ofyn yw nid ‘O ble daeth y ffurf?' ond ‘Beth wnawn ni â hi?'". Ac yn sicr, hanes yr hyn a wnaed â hi yw calon yr astudiaeth hon, ac mae'r pwyslais yn amlach na pheidio ar y modd y llwyddwyd i gyfannu'r be bop a lula a'r delyn aur a chreu cynnwrf amgenach o'r briodas - o Hogia Bryngwran ac Aled a Reg, hyd at Y Dyniadon Ynfyd a'r Tebot Piws ac ymlaen at Endaf Emlyn a Geraint Jarman.

Yn hyn oll, mae trylwyredd ymchwil a manylder gwybodaeth yr awdur yn rhyfeddol. Faint ohonoch tybed a glywodd am y gystadleuaeth sgiffl arloesol a gynhaliwyd o dan nawdd Eisteddfod Môn (Niwbwrch) yn 1959? Yn wir, wrth edrych yn ôl fel hyn ar draws y blynyddoedd, yn enwedig o neuaddau gwag y degawd diwethaf, ni ellir llai na rhyfeddu at y bwrlwm a'r asbri a gynhyrchwyd yn enw canu poblogaidd Cymraeg rhwng y chwedegau a'r saithdegau, a hynny mewn cyfnod pan nad oedd sôn am S4C. Ond os oedd yna wagle o ran y cyfryngau, yr oedd ymchwydd cenedlaetholdeb yn yr un cyfnod yn rhoi awch ar y canu.

Nid y lleiaf o rinweddau'r astudiaeth swmpus hon yw dawn dweud ei hawdur. Fel pob newyddiadurwr gwerth ei halen, mae ganddo'r gallu i grynhoi'n fachog, ond fel un â chanddo hefyd reddf y llenor, y mae'n meddu ar y ddawn i greu trosiadau trawiadol yn ogystal â'r weledigaeth i hoelio sylw ar y manylyn arwyddocaol. Ychwanegwch at hynny ei barodrwydd i liwio'r testun â chyfoeth tafodiaith Sir Benfro, a dyna i chi rysáit ar gyfer arddull ddifyr a darllenadwy iawn. Mae'n disgrifio Meic Stevens fel un a "wnaeth gelfyddyd o gamdreiglo", yn sôn am Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr yn creu "cyfatebiaeth gytseiniol o'r newydd", ac yn darlunio Edward H. Dafis ar lwyfan "yn chwys drabwd stegetsh".

Dyw'r gyfrol ychwaith ddim yn amddifad o hiwmor, yn enwedig yn ei hymdriniaeth â diwylliant cynhenid hanner cyntaf y ganrif. Dyna i chi'r hanesyn hwnnw a adroddwyd gan Eirian Davies am arweinydd Eisteddfod Gwernogle, Dyffryn Tywi, yn cyfieithu ar y pryd for the sake of our English friends:
"Daethpwyd at yr Her Unawd. O fethu gwybod beth oedd ‘Her' yn Saesneg taranodd yr arweinydd o'r llwyfan ein bod wedi dod at y ‘Big Solo'. Roedd y cystadleuydd cyntaf yn canu ‘Y Marchog Dewr'. Fe'i cyfieithwyd gan yr arweinydd yn ‘Bold Stallion'. Wedyn daeth i'r llwyfan fachgen yn canu ‘Ysbryd y Gwastadedd'. O'i gyfieithu, medd yr arweinydd, ‘The Spirit Level'."

Gydag arabedd o'r fath a threiddgarwch diamheuol rhoddwyd pennod gynhyrfus o'n hanes diwylliannol ar gof a chadw. Wrth dalu gwrogaeth i Hefin Wyn am ei gymwynas, mae Meredydd Evans yn codi'r cwestiwn poenus a yw'r Gymraeg bellach yn ddigon cryf i gymhathu'r elfennau estron a pharhau'n rymus? Mae lle i ofni fod y cyflwr "dwi isio bod yn Sais" a fu ar led ymhlith nifer o grwpiau ac unigolion y cyfnod diweddar yn awgrymu nad ydyw. Os felly, mae gwir angen ysbrydoliaeth y llyfr hwn.

< Blaenorol
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 55 o westeion ar-lein
Anheddwyr
275 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo