Cyfrol o gerddi gan Llion Jones
  Hafan arrow Cerddi arrow Cerddi newydd 2006 arrow I John Daniels 04 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
I John Daniels PDF Argraffu E-bost
Awdur: Gwilym Morus   
01 : 09 : 2006
I ddathlu 35 mlynedd o waith yn Ysgol Morgan Llwyd

Rwy'n cofio'r tân yn ein canu - cynaist
sbarc ynom, a thynnu
ohonom fflam i'n synnu.

Yn gyweiriau blagurodd; yn esgyn
gan losgi disgleiriodd;
yn ein hyder fe neidiodd.

Ein megin - yn ein magu o wreichion
i'r aer uchel; chwythu
ynom i ni dywynnu.

Rwy'n cofio'r lli harmonïau - emyn
yn symud yn donnau,
llais y môr yn ein lleisiau.

A llifo wnaem i bellafoedd y gân;
fe ganem filltiroedd
yn ddifrys dros hen ddyfroedd.

Capten ein hawen, â'n hawel yn fwyn
o fewn hwyliau tawel
agoraist inni'r gorwel.

Gŵr annwyl, ein gŵr hynod - am dy waith
mae diolch cynnes, parod.
Mae'r gân yn fyw; clyw ein clod.

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 58 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo