Mae'n oer ar draethell mwynhad - a hiraeth
y môr sy'n ei lygad,
mae'n ddof ac mae'n amddifad,
heno mae'n rhydd, ond mae'n rhad.