|
Cystadleuaeth Englyn y Dydd GG06 |
|
|
|
|
Awdur: Mei Mac
|
|
21 : 11 : 2006 |
|
Eleni eto, fe fydd cystadleuaeth Englyn y Dydd yn cael ei chynnal yn ystod Gŵyl Gynganeddu Ty Newydd.
Y testun gosodedig ar gyfer nos Wener ydy PLUEN
Y testun gosodedig ar gyfer dydd Sadwrn ydy TAITH
Y gystadleuaeth ar gyfer dydd Sul ydy llunio englyn sy'n cynnwys y gair WEDYN
Y wobr bob dydd fydd englyn gan brifardd adnabyddus, wedi ei arwyddo a'i fframio. |