|
Awdur: Iwan Rhys
|
|
04 : 12 : 2006 |
O dan y môr a’i donnau
aros y mae’r co’ sy’n cau
amdanaf pan glywaf glych
yn cydadrodd, “Cwyd, edrych
a chofia’r galar i gyd
a chofia pob sgrech hefyd.”
Rhwydd fu ’nyletswydd dros wlad;
haws wedyn f’esgusodiad
a mynd i yfed y medd
ag i lonni gwraig lanwedd
yn yr ŵyl. Trodd hwyl ar hast:
daeth y llanw, daeth llanast.
Fy un weddi feunyddiol
na ddaw’n wir yw cael ddoe’n ôl:
cael ddoe arall yn allwedd
i’w throi, ac i gloi drws gwledd
yn ddiogel heb helynt
yng nghoediog Faes Gwyddno gynt.
Er rhwydd dyletswydd dros wlad,
haws i un wneud camsyniad. |