|
Awdur: Mererid Hopwood
|
|
31 : 01 : 2005 |
|
'Run ll^wer sy'n Pwllderi a we d^we'n d'amser di, 'run gole'n mish Gorffennaf a 'run houl ar wên o haf; im mhob un ffarm ma' byw'n ffest a ffiniant im mhob ffenest, wa'th i Bencâr i aros da'th heide canwille'r nos. Ond o'r garn derfyn dwarnod a'r d^wr hallt in rhwdi'r rhod, wedi'r houl find ar wilie, wedi'r haid find nôl i'r dre - pwrni dw i i'n diall a'n dwad i weld trw'r nos dall: ar ôl i saith-nos-ole ma'i'n githrwm o llwm 'rhyd lle, ma'n Pwllderi ni'n newid - we'r goleuni'n gelwi'i gyd. |