Cyfrol o gerddi gan Llion Jones
  Hafan arrow Cerddi arrow Cerddi newydd 2007 arrow Huw 01 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Huw PDF Argraffu E-bost
Awdur: Mei Mac   
04 : 01 : 2007
Ar ben ei flwydd yn hanner cant

Huw Erith wedi britho?
Huw’n dallt pa mor hen ydy o?
Huw, wir Dduw, mor hir ei ddaint?
Huw heno’n rhegi ei henaint?
Huw’r llongddrylliad? Huw’r adyn?
Huw’r farf hallt, a Huw’r gwallt gwyn?
Huw fel lleden eleni?
Huw ar fy myw? – Nid i mi!
Huw ar ‘y myw yw Huw’r môr.
Huw yr hogyn a rhagor:
Huw’r dyn nad yw’n hir o’r dŵr,
Huw ar sgotal, Huw’r ‘sgotwr,
Huw mor llon ddechrau Ionawr,
Huw a’i fol llawer rhy fawr,
Huw’r englyn ugain munud,
Huw’r bardd o ben pella’r byd,
Huw’r yfwr , Huw’r rhegwr hy’,
Huw’r ŵyl, Huw hwyr o’i wely,
Huw’r cewyll a Huw’r cywydd,
Huw a ddaw’n brifardd rhyw ddydd,
Huw’r bachyn chwim, Huw’r cimwch,
Huw’n ei gap yn nhin ei gwch,
Huw pan ar dir mor wirion,
Huw fel duw pan ar y don,
Huw’r môr o’i hiwmor ei hun,
Huw harddach na naw hyrddyn.
Huw a’i wên fel traeth Hawaii,
Huw o dîm dwy a dimai.
Huw a’i haf yn hwy o hyd,
Huw a’i odlau tywodlyd,
Huw’r Sbargo, a Huw’r Llo Llŷn,
Huw Erith y dihiryn.
Huw Erith fel crair hwyrach,
Huw wyrdd, serch hynny, Huw iach:
Huw’n hŷn ond eto’n mwynhau:
Huw ifanc wrth y rhwyfau,
Huw’r wên deg a’r tad chwegwaith,
Huw’r gŵr cyhyrog ei iaith,
Huw y parti o riant,
Huw megis cyw’n hanner cant!

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 34 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo