Hysbysebwch
  Hafan arrow Dolenni 09 : 01 : 2009 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Manylion y mis hwn
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (158 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Cofio Catrin PDF Argraffu E-bost
Awdur: Cen Williams   
10 : 01 : 2007

Ysgrifennwyd ar gyfer Gwasanaeth Dathlu Bywyd Dr. Catrin P. Jones, Prifysgol Cymru Aberystwyth Ionawr 6, 2007. Cafwyd y syniad gwreiddiol o gerdd Saesneg gan filwr anadnabyddus.

Os deui byth i oedi uwch fy medd
Ac ing a hiraeth yn cynhyrfu’r hedd,
Cofia fy nwyf ...

Cofia nad fi sydd yno yn y gro,
Fy ysbryd i a’r holl atgofion sydd ar ffo –
Nid yma’r wyf ...

Chwilia amdanaf pan fo’r nos yn toddi’n wawr
Neu’r machlud derfyn dydd yn anfarwoli’r awr,-
Yno y bwyf ...

Wrth wrando ar giglo’r forwennol a’i chri
Sy’n llonni Bae Cemlyn, a glywi di fi’n
Llawn nwyf?

Neu yn y pelydryn sy’n torri trwy’r cwmwl du
I ddawnsio am ennyd, yn wefr uwch su
Y don ...

Gan droelli a phlethu ag eraill, yn sioe
I sigl a sain a chyfeiliant ein doe
Yn llon ...

Ac yno’n Lôn Cana uwch carped y clychau glas
Yng nghoch bendigedig y ffesant, sy’n ias
Fel erioed ...

Yng nghynnwrf adenydd sy’n curo wrth godi’n rhydd
Uwch poethder a blinder a meithder y dydd
Drwy’r coed ...

Paid byth â dod i ollwng dagrau uwch fy medd,
Ond gad i hwyl a chwerthin yr atgofion darfu’r hedd.

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Hoff gerdd o Oriel 2008
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 33 o westeion ar-lein
Anheddwyr
278 aelod
0 heddiw
2 yr wythnos hon
Diweddaraf: ciltwllan
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo