Barddas
  Hafan arrow Adolygiadau arrow Cyfrolau Barddoniaeth arrow Grawn Gwirionedd: John Fitzgerald 01 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Grawn Gwirionedd: John Fitzgerald PDF Argraffu E-bost
Awdur: Dafydd John Pritchard   
15 : 01 : 2007

Cyfuniad yw’r gyfrol ragorol hon o gerddi cyfrol gyntaf John Fitzgerald, Cadwyn Cenedl, a bron cymaint o gerddi a gyfansoddwyd ganddo yn ystod y blynyddoedd wedi hynny.

Nid cerddi eisteddfod neu dalwrn a geir rhwng y cloriau hyn, ac mae’n deg dweud y bydd y deunydd, a natur y cyfansoddi yn ddieithr i lawer un. Offeiriad yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig, ac aelod o Urdd y Carmeliaid ar ben hynny, yw’r bardd. Sais o Wyddel o Gymro, oedd disgrifiad rhywun ohono. Y mae hefyd yn athronydd. Cyfrol sy’n cyfuno tair galwedigaeth yw hon: yr offeiriad, yr athronydd a’r bardd. Yn ei ragair mae’n dweud: ‘Ni fydd neb yn synnu, gobeithio, fod tipyn go lew o’r cynnwys yn dal i fod yng nghywair gweddi.’ Mae deall hynny yn sicr yn fantais wrth fynd ati i’w darllen.

Nid yw’n ymdrin â syniadau a themâu hawdd yn y fan hyn. Ond prif gamp y bardd yn y cerddi hyn, o bosib, yw dangos dawn yr athronydd da i drafod syniadau cymhleth mewn iaith sydd, yn ei hanfod, yn syml, eglur ac uniongyrchol. A gwneud hynny, bob amser, fel bardd.

Nid yw’n dewis peidio â thrafod syniadau sy’n anodd mewn ystyr arall chwaith, fel yn y gerdd ‘Gwahanglwyf’ o’r casgliad cyntaf. Ymdrin â mater dioddefaint mae’r bardd yma:

'I gleifion eraill
y rhoddaf adfer bywyd, agor y byd, i ambell un,
er dangos yma bresenoldeb trech na’u pangau.
I ti, fy nghyfaill,
ni roddaf borth ond unigedd Mab y Dyn
yng ngafael angau.'

Ond dathlu, fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl, yw prif nodwedd y cerddi. Mor syfrdanol anffasiynol yn ein hoes ni wedyn yw geiriau fel y rhain o’r gerdd ‘Wrth ddod i’r byd’:

‘Dy eni o wraig.
Sut arall y deuet i’n plith, i fod yn un ohonom?
Egino ynddi’n ddeunydd annelwig,
ac ynot gynddelw ei delw hi a’i llun.
Blaguro’n galon, aelodau, dwylo, pen.'

Gall sawl un ddysgu am rythm iaith o ddarllen y cerddi hyn.

Dieithr ond rhagorol yw fy marn am y gyfrol hon, a gobeithiaf y bydd y darllenwyr yn fodlon rhoi’r amser y mae ei angen i’w darllen yn iawn; ac, yn wir, yr amser y mae hi yn ei haeddu.

Dafydd John Pritchard

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 22 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo