|
Awdur: Karen Owen
|
|
24 : 01 : 2007 |
|
o weld olion traed ac o feddwl am gyn-drigolion
Bore oer, ond bu'r eira'n
pluo lôn cymdogion da
hyd y rhes lle mae'r drysau,
un ac un, bellach ar gau.
Y mae doeau'r gwadnau gwyn
yn hewlydd braf eu dilyn
sy'n troi pafin cyfrinach,
heibio i'r byd, yn llwybrau bach
rhwng tŷ a chartref hefyd
ar oes o draul hir y stryd.
Mor wyn oedd, ond dadmer wnaeth
a diogi'n cymdogaeth.
|