Hafan arrow Adolygiadau arrow Astudiaethau Diwylliannol arrow Y Gaer Fechan Olaf: Alan Llwyd 01 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Y Gaer Fechan Olaf: Alan Llwyd PDF Argraffu E-bost
Awdur: Tegwyn Jones   
05 : 03 : 2007

A lwyddodd unrhyw genedl arall i esgor ar sefydliad mor gyfareddol-ddiddorol â’r Eisteddfod Genedlaethol? Mae’n gwestiwn! Pwy all anghofio’r wefr a gafodd darllenwyr llyfrau Cymraeg pan ymddangosodd cyfrol Hywel Teifi Edwards, Gŵyl Gwalia, lle olrheinir hanes yr Eisteddfod rhwng 1858 ac 1868? Bellach dyma roi ei hanes rhwng 1937 a 1950 o dan y chwyddwydr gan Alan Llwyd nad yw ei wybodaeth am yr Eisteddfod ym mhob agwedd arni yn ail i neb.

Rhennir y gyfrol yn ddwy ran. Hynt a helynt amrywiol Eisteddfodau’r cyfnod dan sylw a geir yn y rhan gyntaf, a’r ymdrech arwrol, yn wyneb pob math o wrthwynebiad a sen, i sefydlu gŵyl uniaith Gymraeg yn llinyn arian trwy’r cyfan. Man cychwyn arwyddocaol yw Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1937, oherwydd yno am y tro cyntaf y mabwysiadwyd Cyfansoddiad newydd yr Ŵyl, a’r Rheol Gymraeg wedi ei hymgorffori ynddo am y tro cyntaf. Canlyniad protest ar ran nifer o feirniaid yr Eisteddfod oedd y Rheol Gymraeg, wedi i’r pwyllgor gwaith lleol wahodd Arglwydd Londonderry, Llywydd y Weinyddiaeth Awyr, i lywyddu un o’r cyngherddau. Cwbl ddi-Gymraeg ydoedd ef, a phennaeth yr union weinyddiaeth a adeiladodd yr Ysgol Fomio ym Mhenyberth, ac a oedd felly’n anuniongyrchol gyfrifol am garchariad y Tri ar ddechrau blwyddyn Prifwyl Machynlleth. Dilynir yr helynt tra diddorol hwn yn fanwl fel y gwneir â hynt a helynt pob un o’r Eisteddfodau dilynol hyd at Eisteddfod Caerffili 1950 lle gwelwyd gweithredu’r rheol Gymraeg yn llawn am y tro cyntaf.

Ac na feddylier mai’r ochr lenyddol yn unig a goffeir gan awdur a gyflawnodd y gamp ddwbwl ddwywaith. Olrheinir hanes y ddrama a’r cyngherddau yn y Brifwyl, ac ymgiprys y corau mawr, rhoddir sylw i sylwadau llywyddion y dydd ac i ambell araith mewn seremoni agoriadol yr Eisteddfod ei hun neu’r Babell Gelf a Chrefft. Dyfynnir yn bwrpasol o erthyglau post-mortem ar y gwahanol wyliau mewn papurau newydd a chylchgronau, a brithir y cyfan â gwybodaeth, straeon, hanesion ac anecdotau a fydd yn fêl ar fysedd unrhyw un â rhithyn o ddiddordeb yn yr Ŵyl ryfeddol hon o’n heiddo.

Yn ail ran y gyfrol ceir crynodeb aeddfed a meistraidd o gynnyrch llenyddol y cyfnod Eisteddfodol dan sylw sy’n cynnwys mwy nag un gymhariaeth annisgwyl, ond hynod ddiddorol, rhwng rhai awdlau megis awdl Gwilym R Jones, ‘’Rwyn edrych dros y Bryniau Pell’ (Dinbych 1938) ac awdl Dewi Emrys, ‘Cymylau Amser’ (Bangor 1943), a hyd yn oed rhwng awdl foliant Gwilym R Tilsley i’r ‘Glöwr’ (Caerffili 1950) a phryddest J M Edwards, ‘Peiriannau’ (Hen Golwyn – Eisteddfod Radio – 1941).

Darllenais y gyfrol hon â mawr fwynhad, a chymeradwyaf hi’n llawen. Hyfryd yw deall fod dwy gyfrol arall o’r un natur ‘ar fin eu cwblhau’ a fydd yn ymwneud â’r blynyddoedd 1900-1918 a 1919-1936.

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 24 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo