Hafan arrow Adolygiadau arrow Cyfrolau Barddoniaeth arrow Dim Angen Creu Teledu Yma: Aled Lewis Evans 01 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Dim Angen Creu Teledu Yma: Aled Lewis Evans PDF Argraffu E-bost
Awdur: Dafydd John Pritchard   
05 : 03 : 2007

Bardd diwyd yw Aled Lewis Evans, a dyma ei gyfrol ddiweddaraf wedi ymddangos. Mae’n hawdd adnabod llais y bardd hwn o ran testun ac arddull hefyd. O ran testun, dyma lais y gogledd-ddwyrain; ardal Wrecsam a’r Glannau – ardaloedd sy’n brin iawn eu cynrychiolaeth ym myd barddoniaeth Gymraeg gyfoes. A llais llawn cydymdeimlad â’r bobl sy’n byw yn y llefydd hynny sydd gan y bardd hwn.

Yn rhyfedd, nid yw’r cerddi sy’n sôn am ei gefndir a’i deulu yn y gorllewin hanner mor ddifyr i mi! Ac eto, wrth gwrs, mae’n bosib fod y rhain gyda’r cerddi mwyaf personol i’r bardd.

Mae’n gyfrol swmpus, ac fe geir ynddi nifer o destunau a themâu eraill hefyd wrth gwrs – cerddi taith a cherddi sy’n ymwneud â chrefydd, er enghraifft.

O ran arddull, bardd y wers rydd ydyw yn bennaf, a dyna fu ei hoff gyfrwng ar hyd y blynyddoedd.

Mae’r canu’n lân ac uniongyrchol ganddo ar y cyfan. Ond mi fyddai’n braf weithiau cael rhyw gymaint o amrywiaeth yn yr arddull, gan fod tuedd i’r cerddi i gyd fod yn debyg i’w gilydd ar ôl ychydig. Eto i gyd, efallai fod yma ymgais i ganu hyd yn oed yn fwy uniongyrchol mewn rhai cerddi, ac yn anffodus, canlyniad hynny yw rhai darnau ychydig yn rhyddieithol yma ac acw.

Fe hoffwn hefyd ragor o bethau fel hyn, o’r gerdd ‘Eglwys Kalamaki’:

‘Y beddau gwynion Groegaidd hynny
sy’n awgrymu
bod mwy o oleuni wedi gadael y byd hwn.’

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 28 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo