Hafan arrow Adolygiadau arrow Astudiaethau Testunol arrow Gwaith Madog Dwygraig: Huw Meirion Edwards 01 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Gwaith Madog Dwygraig: Huw Meirion Edwards PDF Argraffu E-bost
Awdur: Twm Morys   
09 : 03 : 2007

O dan Hywel Ystorm yn y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, ceir hyn:

"bardd sy’n rhannu gyda Madog Dwygraig y bri, neu’r anfri, o fod wedi canu llawer o’r cerddi dychan ffieiddiaf yn yr iaith Gymraeg..."

Ac mae Huw Meirion yn ei ragymadrodd i’r gyfrol hon yn dyfynnu’r ysgolhaig Chotzen yn sôn am ‘eirfa ffiaidd’ y ‘clerwr’ Madog Dwygraig. (Mae’n swnio’n waeth yn Ffrangeg: tud. 3!) Pan es i ati fy hun yn fyfyriwr ymchwil ifanc i godi cwr y llen ar ganu dychan Madog ac eraill yn Llyfr Coch Hergest, rhybuddiwyd fi y gallai wneud niwed parhaol i’m henaid! Dyma pam yr anwybyddwyd y bardd cwbl arbennig hwn, ac na chafwyd golygiad call o’i waith cyn hyn. A dyma pam hefyd mae ei lais yn ein taro fel un gwahanol a newydd.

Bardd o ardal y Bala oedd Madog Dwygraig, yn canu yn ail hanner y 14eg ganrif, yn gyfoeswr, ac efallai yn gyfaill, i Iolo Goch. Mi ganodd awdl foliant i Hopgyn ap Tomos, y gŵr a berodd sgrifennu Llyfr Coch Hergest, ac yn y Llyfr Coch y cadwyd pob peth o’i waith sydd wedi aros, sef 17 o gerddi yn null y Gogynfeirdd. Cerddi dychan ydi naw o’r cerddi rheini, ac ambell un, fel y Dychan i Fab y Gof (rhif 13), ac Ystoria Ddeicyn (rhif 14) yn dangos rhyw ddiddordeb cymdeithasegol ‘Chauceraidd’ bron. Ond fel mae’r golygydd yn awyddus inni werthfawrogi, mae canu Madog yn ‘cwmpasu prif genres ei gyfnod, ac eithrio’r canu serch...’

Mae ei awdl i Grist, a’i englynion i Iesu yn perthyn i ‘brif ffrwd canu crefyddol y cyfnod’. Ond mae ganddo hefyd ddwy awdl gyffes, ac yn un o’r rheini, yn null personol y ‘farwysgafn’, neu’r gyffes wely angau, mae Madog yn edifar iddo ganu ‘maswedd’ a ‘gorwacter’. Gallai ganu yn gyfareddol iawn: ‘Lliw arien ydiw, eiry yn odi’ (‘lliw barrug ydyw, eira’n disgyn’), meddai am Lleucu, gwraig Morgan ap Dafydd o Rydodyn, a ‘llathraid liw huan ar wynllethri’ (‘lliw heulwen lachar ar lethrau gwynion’). Ond ‘gwrach egored gyffredin’ oedd rhyw greadures arall, ‘gwrach garth, gwrach a tharth o’i thin’.

Mae elfen storďol gre’ ddafydd-ap-gwilymaidd yn llawer o’i ganu, yn enwedig yn ei awdl i lo dwy a dimai a gafodd yn rhodd yn lle ych (rhif 10), ac yn ei awdl i ryw Faald (rhif 9) a ysbeiliodd ei goeden afalau. Mae ehangder ei ddysg farddol yn amlwg, ac mae’n hoff o barodďo dulliau’r canu mawl ac o led-ddyfynnu’n gellweirus o hen gerddi adnabyddus. Mae’r awdl i Maald, er enghraifft, yn parodďo Afallennau Myrddin yn feiddgar iawn.

Mae rhagymadrodd a nodiadau testunol Huw Meirion yn drylwyr iawn ac yn ddifyr. Mi fydd ei aralleiriadau di-lol yn plesio’r sawl sy’n hoffi aralleiriadau, ac mae’r maswedd a’r difyrrwch yng nghanu Madog sydd mor niweidiol i’r enaid yn siŵr o wneud y gyfrol hon yn un o’r rhai mwya’ poblogaidd yn y gyfres.

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 29 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo