Hysbysebwch
  Hafan arrow Adolygiadau arrow Beirniadaeth Lenyddol arrow Y Patrwm Amryliw 2: Robert Rhys (gol.) 01 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Y Patrwm Amryliw 2: Robert Rhys (gol.) PDF Argraffu E-bost
Awdur: Huw Meirion Edwards   
16 : 04 : 2007

Dyma gasgliad cynhwysfawr o ysgrifau ar rai o feirdd pwysicaf ail hanner yr ugeinfed ganrif. A chymaint o’r drafodaeth ddeallus ar farddoniaeth ddiweddar ar wasgar mewn llu o lyfrau a chyfnodolion, braf yw cael y fath gyfoeth o ddeunydd rhwng cloriau un gyfrol.

Cyhoeddwyd cyfrol gyntaf Y Patrwm Amryliw ddeng mlynedd yn ôl dan ofal yr un golygydd, Robert Rhys. Trafodwyd yn honno waith 23 o feirdd a ganai’n bennaf yn hanner cyntaf y ganrif, o Eifion Wyn hyd John Roderick Rees. Rhoddir sylw yn y gyfrol newydd hon i 21 o feirdd, o Euros Bowen hyd Twm Morys, dau o feirdd y gynghanedd ond dau fardd y mae’r gwahaniaeth rhyngddynt yn tystio i amlochredd ein barddoniaeth dros yr hanner canrif diwethaf.

Y gwahaniaeth amlycaf rhwng y gyfrol hon a’i rhagflaenydd yw fod yma sylw i bedwar bardd benywaidd, sef Nesta Wyn Jones, Einir Jones, Menna Elfyn a Gwyneth Lewis. Amrywiaeth y deunydd yw ei ogoniant. Amrywiol hefyd yw’r cyfranwyr, gydag enwau adnabyddus fel Alan Llwyd, Delyth George, Dafydd Johnston, a’r golygydd ei hun, ochr yn ochr â chynrychiolwyr to newydd o feirniaid, sy’n cynnwys Llion Elis Jones, Angharad Price a Nia Heledd Williams. Mae’r ymdriniaethau’n gryno heb fod yn arwynebol, yn dreiddgar heb fod yn astrus. Dadlennol hefyd yw ôl-ymadrodd y golygydd sy’n bwrw golwg ddifyr ar ddylanwad blodeugerddi’r ugeinfed ganrif ar drywyddau beirniadaeth lenyddol ddiweddar ac ar gefndir y beirdd a’r cyfranwyr. Mae yma faeth i’r arbenigwr ac i’r lleygwr diwylliedig fel ei gilydd, ac a chynifer o’r beirdd ar feysydd llafur ein hysgolion a’n colegau bydd cryn groeso i’r gyfrol hon, a chryn werthiant, gobeithio.

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 23 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo