Glaniodd ar ein patsh ni
y tu fas i'r garafan y bore hwnnw
nid nepell o Firenze;
glaniodd gan sgleinio
yn haul cyntaf Ebrill,
yn aderyn du o'i gorun i'w draed.
Gwelodd, â'i lygaid pefriog,
y briwsion bara o dan ein bwrdd
a ninnau'n brecwasta'n braf.
Nid oedd ganddo'i bapurau swyddogol
ac roedd ofn Awdurdod yr Angau
yn amlwg yn ei herc.
Fesul cam ac fesul cip
dawnsiodd yn hyderus-betrusgar
tua'r twristiaid dros dro
i bigo'r bara
a hedfan i ffwrdd.
* * * * *
Gwelais ef am yr eildro
yn ceisio ennill ei damaid
ar stryd y ddinas ei hun
mor ddu â glo barbeciw neithiwr
yn hy' ei herc
heb bapurau swyddogol.
Yr un oedd ei ddawns:
un llygad ar fara'r twristiaid
a'r llall ar yr awdurdodau
a ninnau yno
yn dathlu'r Dadeni. |