|
Ymryson Flynyddol Sesiwn Fawr Dolgellau |
|
|
|
|
Awdur: Bethan Gwanas
|
|
08 : 06 : 2007 |
|
Mae hi wastad yn hwyliog a difyr, y ffordd orau bosib i gloi’r penwythnos. Dewch yn llu a’ch cerddi efo chi – neu bensal o leia.
Amser: 2 y pnawn, dydd Sul Gorffennaf 22ain.
Lleoliad: Y Clwb Rygbi, Dolgellau.
Meuryn: Twm Morys.
Y Tasgau – agored i bawb sydd am roi cynnig arni:
1) Englyn yn cynnwys enwau cyn gymaint o wahanol anifeiliaid ag sydd modd.
2) Cwpled: ar yr odl '-on'.
3) Cân: Cath a chi.
4) Limrig(au): Mi gysgais i neithiwr heb jamas... neu heb goban...
5) Pennill telyn: Lawer gwaith y bûm yn synnu.
6) Dihareb newydd.
7) Pennill ar y pryd.
Gwobrau hael!
Llyfrau wedi eu rhoi gan Wasg Gwynedd a’r Lolfa i bawb sy’n cael 1af, 2il a 3ydd.
Lwmpyn mawr o lechen i ddal drws yn agored i fardd gorau’r ymryson.
Tarian i’w chadw am flwyddyn i’w rhoi i bwy bynnag sydd wedi plesio Twm am unrhyw reswm yn y byd! |