Cyfrwng
  Hafan 01 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Cywydd Comisiwn y Gweithdy PDF Argraffu E-bost
Awdur: Y Prif Gopyn   
05 : 07 : 2007
Am y tro cyntaf yn hanes yr Annedd, mae cywaith y gweithdy yn gywaith comisiwn. Ar gais Bwrlwm Eryri (prosiect treftadaeth ddiwylliannol), Canolfan Llys Ednowain a Chynllun Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd y nod yw cwblhau cywydd i'r Wyddfa a ddechreuwyd gan neb llai na Hedd Wyn ei hun. Elin Alaw, swyddog Bwrlwm Eryri, sy'n amlinellu'r her:

"Yn y llyfr Moi Plas gan J. Ellis Williams, dyfynnir sgwrs rhwng Elis, Yr Ysgwrn (Hedd Wyn) a Moi, Plas Capten, Trawsfynydd. Fel hyn yr â’r sgwrs, gan gychwyn efo geiriau Elis:

Rydw i wedi cychwyn cywydd i’r Wyddfa …Dyma’r cwpled cynta’ –

Gweled draw o’m briglwyd drig
Fynwes Y Wyddfa unig.

Bewt ti’n feddwl ohono fo?

Symol. Yr Wyddfa sy’n iawn, nid y Wyddfa. A pheth arall, fedri di ddim gweld Yr Wyddfa o’r Ysgwrn, dim ond ’i brig hi. Weli di mo’i mynwes hi.

Chlywaist ti ddim am ryddid barddonol, dywed? … O’r gora’, mi newidia’ i’r cwpled -

Gweled draw o’m briglwyd drig
Rhyw gorun o oer gerrig.

Hyd y gwyddom, wnaeth Hedd Wyn ddim parhau gyda’r cywydd, ond does dim i’n rhwystro ni rhag gwneud hynny! Oes gennych chi linell neu gwpled i’w ychwanegu? Beth fyddech chi yn disgwyl ei weld yng nghyffiniau’r Wyddfa? (Cofiwch fod gennym hawl i “ryddid barddonol,” ac y cawn ehangu ein gorwelion tu hwnt i’r olygfa o’r Ysgwrn!) Gallech gynnwys enwau copaon neu lynnoedd neu gymoedd cyfagos i’r Wyddfa yn eich llinellau, neu gyfeirio at chwedlau, cymeriadau, planhigion, neu anifieiliaid cynhenid i’r ardal.

Dyma rai syniadau i'ch helpu:

Mynyddoedd, llynnoedd, llwybrau…
Copa’r Wyddfa, Garnedd Ugain, Elidir Fawr, Grib Goch, Y Garn, Glyder Fawr, Glyder Fach, Tryfan, Pen yr Ole Wen, Carnedd Dafydd, Carnedd Llywelyn, Yr Elen, Foel Grach, Garnedd Uchaf, Foel-fras, Llyn Glas, Llyn Glaslyn, Llyn Llydaw, Llynnau’r Cwm, Llyn Coch, Llyn y Cŵn, Llyn Llagi, Ffynnon Llugwy, Llyn Stwlan, Llyn Dinas, Llyn Cwm y Foel, Llyn Clyd, Llyn Pen y Gwryd, Llyn Gwynant, Ffynnon Lloer, Llyn Dymogydd, Llynnau Duweunydd, Pen y Gwryd, Llanberis, Watkin, Rhyd-ddu.

Pobl a phethau…Cerddwyr, dringwyr, ymwelwyr, cŵn, tȋm achub mynydd, tręn bach yr Wyddfa, Hafod Eryri, bws Sherpa, beics, fflasgiau, râs yr Wyddfa, caffi, mwynwyr, gwaith copr Cwm Dyli.

Planhigion, anifeiliaid, adar…Lili’r Wyddfa, tegeiriannau, geifr, defaid mynydd, Brith Perlog, Gwybedog Brith, brithyll, cnocell werdd, bwncath, ‘sgwarnog, llwynog, cudyll, llug, llygod, ‘hedydd, Chwilen Yr Wyddfa.

Chwedlau a chymeriadau…Gwyddfa Rhita Gawr, y clogyn barfau, Ogo’r Gŵr Blew.

Caiff y cywydd terfynol sylw yn ail Ŵyl Hedd Wyn ar Fedi 29ain 2007.

< Blaenorol   Nesaf >
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo