|
Dathliad yng Nghastell Newydd Emlyn, 21 Tachwedd
Yng Nghymru fach yr achau – llwyth Salisbury,
Gyfenw unig, yw fy un innau,
Ond i eraill mae’n stori wahanol,
A hawl y bobol (i bawb ei hobi)
Yw olrhain, lawr a nôl lan, eu hachau,
Gan enwi neiniau ac ennyn anian
Yr holl lwyth, o’r lleia’ hyd y mwya’,
Hyd Adda ac Efa a Dyddgu hefyd.
Mae un gang nad oes angen ei henwi,
Ei menter hi yw sementio’r awen
Â’u genynnau, ac uno barddoniaeth
 hen waedoliaeth sy’n mynnu deilio,
Deilio’n yr holl ardaloedd o Arfon
I dir Is Aeron ar draws y siroedd,
Ac am fod eisteddfodwyr yn eu tîm
(A’i diawlio hi mae rhai cystadleuwyr!),
Awn ni i Gastell Newydd i weld dau
O’i haelodau yn un o’i haelwydydd,
Dau o dras â dau drysor rhyngddyn nhw,
Dau gog a hwntw, lleisiau dau gantor,
A gweld tair o gadeiriau, dwy goron,
A Lleu a Gwydion yn eu llygadau.
Os anial y gors yn Nôl-goch, os llwyd,
Yn gaer o annwyd, ailagor ynoch
Led y pen mae clwyd y pyrth – ac nid llai
Yw awen y nai yn nhŷ ei ewyrth;
Yn lle aelwyd Llywelyn rhydd Parc Nest
I awdl a phryddest ei le, a phriddyn
I wreiddio lle bu colled, a chywydd
Yn lle un Dafydd yn llwyni Dyfed,
Ac awn ni, dan lwgu’n awr yn Nhachwedd,
I ganol y wledd i ddatgan o lawr
Y neuadd mai prif waddol eu tylwyth
Yw gwneud o lwyth awen genedlaethol.
|