Barddas
  Hafan arrow Cerddi arrow Cerddi newydd 2008 arrow Ei hawlio hi nôl 21 : 08 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Awst 2008
Ll Ma Me I G Sa S
282930311 2 3
4 5 6 7 8 9 10
11 12 13 14 15 16 17
18 19 20 21 22 23 24
25 26 27 28 29 30 31
Manylion y mis hwn
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
blobby (155 cyfraniad)
yprifgopyn (153 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
Ei hawlio hi nôl PDF Argraffu E-bost
Awdur: Osian Rhys Jones   
25 : 01 : 2008
Yn amal mae hualau’n
Rhigmarôl dyddiol ni’n dau
Yn harn am ein sodlau ni –
Yn rhigol am ein crogi;
Pob dydd, mae’r trywydd triog
Fesul awr yn fwy o slòg,
Pob defod ddinod sydd waeth
Yn oriau’r magu hiraeth;

Heddiw oedd y ‘fory ddaw-
Ni welwn fyd anhylaw’n
Crwydro heibio’n hanwybod
Os araf yw’n byw a’n bod.

Awn ni nawr i hawlio nôl,
A dedwyddo’n byw dyddiol,
Awn i’r fan lle bo’r funud
Yn hen ymestyn o hyd,
Awn un dydd, a phledio’n dau
Y galon tros rigolau,
Nes i’r rhwyll diamser hwn
Heneiddo, er nas gwyddwn.
Awn fel sêr i lawer gwlad
Ar ofyn ‘run cyfrifiad,
I fyw einioes y funud
Awn mor bell o ddrama’r byd,
Awn yn hen a neb ond ni
Yma i wybod, fy mabi.

Ac i fryniau’r gyfrinach
Awn ni, a’n calonnau’n iach,
Bydd ar chwâl yr hualau,
A down ni i heneiddio’n iau,
A daw rydd pob calon drom
Â’r Ddwynwen sy’n rhydd ynom.

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 9 o westeion ar-lein
Anheddwyr
264 aelod
1 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Nefyn42
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo