Hafan arrow Cerddi arrow Cerddi newydd 2008 arrow Rhyfelgri i Warren Gatland 06 : 07 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Gorffennaf 2008
Ll Ma Me I G Sa S
301 2 3 4 5 6
7 8 9 10 11 12 13
14 15 16 17 18 19 20
21 22 23 24 25 26 27
28 29 30 31 1 2 3
Manylion y mis hwn
Mwya' poblogaidd
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (219 cyfraniad)
blobby (155 cyfraniad)
yprifgopyn (153 cyfraniad)
sioncyn (144 cyfraniad)
Rhyfelgri i Warren Gatland PDF Argraffu E-bost
Awdur: Rhys Iorwerth   
02 : 02 : 2008

(o Bentyrch y noson cyn y gêm...)

Daeth Chwefror, ac yfory – draw yr ewch
i’r drin yn gyd-Gymry,
draw i faes hen frwydrau fu,
i’r maes i ysgarmesu.

Aeth sawl sgôr, aeth tymhorau – ers inni
roi gwers iawn i’r taclau,
a rhoi gêm ni wnaed ar gae
i’r Saeson balch ers oesau.

Ond mi gewch, yn dîm o gochion – fory
fynd yn fur o ddewrion
i’r gad dros yr henwlad hon,
ar lain ein gwir elynion.

Ewch, curwch eu haceri – yna’n dîm,
rhowch dân yn y rygbi,
yn Nhwcinym, yn nhre’r Cocni,
rhowch hel ar eich hymgyrch chi!

Ewch i Loeger i herio,
i dir Toffs i godi’r to,
i wlad ysgolion bonedd
i hel ofn drwy chwifio’r cledd,
a rhoi’r Swing Lows a’r rhosod
lan fyny’r fan lle maent fod!

Ewch herwyr, ewch a chwarae
y cŵn oddi ar y cae:
rhai budur eu byw ydynt,
hen bansis a sisis ŷnt,
sisis, a blydi Saeson
clochaidd, twitwitaidd eu tôn.

Ewch fel garsiwn o’r twnnel – yn barod
i’w bwrw a’u dymchwel,
a chi, bac, pan gewch y bêl,
dreifiwch fel catrawd ryfel.

Dros Lyndŵr, codwch dwrw – a dros Grav,
dros ei grys a’i enw,
ymyrrwch mewn gêm arw,
a rhowch ddychryn iddyn nhw.

Er mai ffôl yw proffwydoliaeth – a ffôl
temtio ffawd arwriaeth,
dyddiau’n concro heibio aeth:
galwn am fuddugoliaeth!

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Llyfr y Flwyddyn 2008
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 18 o westeion ar-lein
Anheddwyr
254 aelod
0 heddiw
0 yr wythnos hon
Diweddaraf: dheijl
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo