|
Awdur: Aron Pritchard
|
|
07 : 04 : 2008 |
|
(Pryder Cefnogwr Caerdydd)
A ga'i son am ddau ddeg saith
A'r ennill gwerthfawr unwaith?
A ga'i ffydd berwedig ffan
A'i enaid ym Mharc Ninian?
A ga'i lwc Aderyn Glas
A'i gân ar dân mewn dinas?
Ga'i weled buddugoliaeth?
A ga'i sôn am ddau ddeg saith?
|