|
Awdur: Peredur Lynch
|
|
16 : 02 : 2005 |
Nid yw gwlad llychlyd y glo mwy i’w gweld
Ond mae gan bob Cymro
Rhyw gwm yn nyfnder ei go’
A hanes ei lwyth yno.
Un cwm, un gân, un tad-cu a gefaist
Yn dy gof yn llechu,
Yna’u dwyn o’r siafftiau du,
Eu dwyn gan ein syfrdanu. |