|
E-Steddfod Fawr Filwgaidd Hydrefol 2008 |
|
|
|
|
Awdur: Y Bilwg
|
|
22 : 10 : 2008 |
|
Annwyl feirdd a mân brydyddion yr Annedd (mae digon o'r rheini), wele dasgau E-steddfod Fawr Filwgaidd Hydrefol yr Annedd, 2008. Y dyddiad cau, yn ôl yr Hen Drefn ydy pythefnos ac awr i rwan. Bydd y feirniadaeth yn ymddangos, yn ôl yr Hen Drefn o fewn wythnos a theirawr i'r dyddiad cau.
Hwyl arni! Cewch gynnig eich ymdrechion a gweld y cynigion wrth iddyn nhw ddod i law trwy glicio'r ddolen isod:
E-steddfod Fawr Filwgaidd Hydrefol 2008
Dyma'r testunau:
1. Cywydd gyda llinellau'n gorffen fel hyn:
....eleni
....mi
....rhos
....agos
....gwaeth
....hiraeth
....ton
....gwirion
Caiff y cywydd fod yn hir neu'n fyr ond mae'n rhaid cael cwpledi sy'n gorffen fel yr uchod yng nghorff y cywydd.
2. Englyn Unodl Union Gwael Iawn 'Aderyn'
3. Englyn Unodl Union yn cynnwys y gair 'crair'
4. Gorffen cwpled. Un o'r llinellau'n cychwyn gyda 'Mi wn......' |