|
Awdur: Gwilym Morus
|
|
20 : 02 : 2005 |
|
(Geiriau cân o'r albwm Traffig. Un o gymeriadau canolog y Tarot yw'r ffwl.)
Ar y ffin fe ddawnsia'r ffwl,
o'i fodd a heb ei feddwl.
Yn troedio'n llon, digon dwl,
yn unben ar bob penbwl.
Yn ei naid, heb edrych 'nôl,
yn dymuno'r damweiniol.
Ar y ffin, ar lwybrau'r ffôl
i fydoedd y dyfodol.
Yn y bôn ni wyddai be -
ei goflaid am ei gyfle.
Yn ei lwc y mae'n ei le,
a chywrain yw ei chware. |