|
Awdur: Arwyn Groe
|
|
15 : 05 : 2005 |
O'r bryn gwyn uwch maes y gad
edrychodd; Un edrychiad
di-daro ar y dewrion
waeda ei ran drwy'r frwydr hon.
Ni oedodd uwch y gwaedu;
o'i fryn gwyn uwch dyffryn du
aeth ymlaen drwy'r waen a'r rhos
yn heddwch ei fyd diddos.
Ond islaw a glaw drwy'r glyn
a hen fur yn diferu'n
waedlyd; un heb ei hudo,
hwnnw'n brin oedd byddin bro. |